Cydweithio gyda'r coleg peirianneg yn Abertawe
Mae’r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael perthynas hirsefydlog â diwydiant ers 1920 ac mae’n parhau i ddyfeisio datrysiadau arloesol ar gyfer problemau niferus y byd go iawn.
Os ydych yn gwmni rhyngwladol o’r radd flaenaf, yn BBaCh uchelgeisiol, neu’n grŵp sydd eisiau annog STEM yn y gymuned, gall gweithio gyda’r Coleg gael effaith sylweddol ar eich gwaith.
Mae gennym ni lawer i’w gynnig gan gynnwys staff â gwybodaeth arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd, ymchwil a chyfleusterau profi o safon fyd-eang a’r gallu i ddatblygu sgiliau eich gweithlu presennol ac ychwanegu ato trwy gynnig graddedigion o’r radd flaenaf.
Eisiau rhagor o wybodaeth? E-bostiwch workwithengineering@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 295514.