Pam dewis peirianneg sifil yn Abertawe?
Mae ein graddau peirianneg sifil wedi’u dylunio i ddiwallu’r anghenion o’r diwydiant peirianneg sifil. Rydym yn cael ein hadolygu’n barhaus gan Fwrdd Cynghori Diwydiannol sy'n cynnwys cwmnïau fel Arup, Atkins, Interserve a Mot MacDonald.
Rydym ni wedi ennill cydnabyddiaeth dros y byd o'r gwaith arloesol a wnaeth Yr Athro Olek Zienkiewicz yn y 1960au i'r hyfforddiant cyfredol o ymchwilwyr rhyngwladol o’r radd flaenaf.
Rydym yn un o’r canolfannau allweddol ar gyfer ymchwil a hyfforddiant yn mecaneg cyfrifiadurol a pheirianneg. Dechreuodd llawer o'r technegau a ddefnyddir mewn meddalwedd efelychu masnachol yn Abertawe.
Mae Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe yn cael ei chydnabod fel un o 200 brif adrannau’r byd (QS World Subject Ranking).
Ein Graddedigion
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gael gyrfaoedd diddorol ac amrywiol gyda chwmnïau fel Atkins, Arup, Mott MacDonald, AECOM, Jacobs a Rolls-Royce.
Mae 97% o'n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach 6 mis ar ôl graddio gyda chyflog cyfartalog o £24,000 (16/17 DLHE).