Yn dilyn Streic Hinsawdd Byd-eang yr hydref, roeddem ni am durio i safbwyntiau Myfyrwyr Peirianneg yma ym Mhrifysgol Abertawe. A ydynt yn optimistig y gallan nhw a’u cyfoedion wneud gwahaniaeth? Neu a ydynt wedi ildio i'r ffaith bod y cenedlaethau o’u blaenau wedi mynd â'r sefyllfa i bwynt di-droi'n-ôl? A sut mae hyn yn llywio eu safbwyntiau ar yrfa ym maes Peirianneg?

Does neb yn gwadu'r hyn sy'n amlwg

“Yn ddigamsyniol, yr argyfwng hinsoddol ac ecolegol yw'r broblem fwyaf sy'n wynebu ein cymdeithas heddiw. Mae'r goblygiadau [...] yn codi ofn enfawr arna i am y dyfodol ac yn achosi trallod a phryder mawr i mi." (Alex W)

"Mae cael fy atgoffa am y drychineb sydd ar ddod, ynghyd â'r diffyg gweithredu amlwg gan y rhai hynny mewn sefyllfa o bŵer yn gythryblus iawn."  (Joshua S)

“Er gwaethaf y dystiolaeth sy'n mynnu bod yn rhaid i bethau newid o ddifri erbyn 2030, mae llywodraethau'n parhau i ymrwymo i newidiadau erbyn 2050, gan gamddeall yn llwyr" (Gareth G).  Mae Vlad G yn cytuno: "Os oes eisoes argyfwng newid yn yr hinsawdd, oni fyddai cyfnod o amser mor hir yn gwneud yr effeithiau'n ddi-droi'n-ôl ac, o bosib, yn drychinebus?!

Maent yn credu ym mhŵer yr unigolyn

"Yn aml, mae cyfaddawdu'n rhan o fod yn gynaliadwy, ond diolch byth gyda'r pethau nad oes gwir eu hangen arnom. Yn aml, mae pobl yn tanbrisio eu dylanwad yn y byd hwn.” (Joshua S)

“Mae'n rhwystredig i mi fod tasgau mor syml i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd, megis ailgylchu, yn ormod o ymdrech i lawer o bobl drafferthu eu gwneud; yn benodol, y bobl hynny sy'n byw eu bywydau cyfan yn cael eu bombardio â bygythiad real newid yn yr hinsawdd, ond yn parhau i'w anwybyddu'n llwyr er eu lles personol nhw." (Alexander J)

Mae pawb a ymatebodd wedi gwneud newidiadau ymarferol i’w bywydau o ddydd i ddydd er mwyn lleihau eu hôl-troed carbon. Amlinellodd Alex a Bill y penderfyniadau maen nhw wedi'u gwneud:

Alex W: "Rwy'n ymwybodol iawn, iawn o fy effaith unigol [...] Rwy'n amharod iawn nawr i fynd ar awyren a byddwn i'n chwilio'n rhagweithiol am gynyddu dulliau cludiant cyhoeddus sy'n gynaliadwy [...] Ailgylchu cymaint â phosib, gan gynnwys cynlluniau ailgylchu ansafonol megis Terracycle yn y Brifysgol ar gyfer pacedi o greision a deunydd ysgrifennu [...] Ymgyrchu dros newidiadau systemig a strwythurol gan lywodraethau lleol a chenedlaethol a sefydliadau eraill sy'n manteisio ar yr amgylchedd."

Bill G: “Gwerthais i fy nghar, gosodais i system gwresogi dŵr solar, rhoddais orau i'm swydd a dechreuais PhD fel myfyriwr aeddfed yn astudio ynni cynaliadwy.”

Mae eu dewisiadau gyrfa wedi'u dylanwadu'n drwm gan y sefyllfa

Joshua S: "Dw i'n rhan o'r genhedlaeth sy'n gorfod dod o hyd i atebion i'r problemau hyn a dw i am chwarae fy rhan i. Mae unrhyw gwmni â'r un amcanion bendant yn denu fy sylw i.

Bill G: “Mae materion amgylcheddol yn pennu popeth. Fy mreuddwyd i yw gwneud tanwydd, sy'n llawer mwy dichonadwy nag y byddai llawer o bobl yn sylweddoli."

Ed S: “Dw i'n gallu dychmygu y bydd ffrwydrad sydyn mewn cynaliadwyedd ac y bydd cyfreithiau'n llymach, ac y bydd hyn yn cael effaith ar safonau ymarfer presennol."

Alex W: "Dw i ddim yn credu y gallwn i weithio dros sefydliad nad oedd yn ceisio bod yn gynaliadwy mewn ffordd ystyrlon neu a oedd yn gweithredu'n anfoesol. […] mae'n atyniadol gweithio i sefydliad sy'n rhagweithiol wrth geisio brwydro yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd."

Alister H: "Fel peiriannydd awyrofod [...] dw i'n chwilio am swydd ar hyn o bryd mewn meysydd megis tanwydd cynaliadwy ac awyrennau electrig, er mwyn i mi allu chwarae fy rhan wrth lywio'r diwydiant tuag at ddyfodol gwyrddach, neu ddefnyddio fy ngradd i gael swydd yn y sector ynni adnewyddadwy."

Alfie S: “Yn benodol, dw i wedi bod yn gwneud ceisiadau am EngD a fyddai, yn fy marn i, yn cael effaith gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd, yn enwedig mewn deunyddiau awyrennau, gan gynyddu effeithiolrwydd awyrennau, a fyddai'n arwain at effaith enfawr."

Fel byddech chi wedi disgwyl, gan beirianwyr, maent yn benderfynol o ganolbwyntio ar atebion

"[Mae sylw yn y wasg] yn rhoi ymdeimlad o anobaith o ran ein sefyllfa bresennol ac, yn y pen draw, mae'n ymddangos ei fod yn atal trafodaeth go iawn o ran yr hyn y mae angen ei wneud" (Tristan H M). Mae Alister H yn cytuno: “Mae ehangder y sylw a maint y broblem yn gallu eich disensiteiddio i'r problemau, ond mae'n bwysig parhau i fod yn optimistig ac yn obeithiol.”

"Nid yw defnyddio gwellt nad ydynt yn blastig neu gwpanau ailddefnyddiadwy'n unig heb newid unrhyw beth arall yn mynd i'r afael â'r problemau go iawn y mae angen eu datrys. Maent yn ymddangos i fod yn atebion gwag nad ydynt yn mynd i'r afael â'r cwestiwn ehangach rydym ni, fel cymdeithas ryngwladol, yn eu hwynebu. [...] Erbyn hyn, mae'n ofynnol adeiladu isadeiledd sy'n gallu ymdopi â digwyddiadau tywydd eithafol, h.y. rheoli llifogydd mewn ardaloedd arfordirol. Bydd llifogydd mewn dinasoedd ac isadeiledd a bydd rhaid eu cynllunio mewn ffordd sy'n golygu na fyddant yn parlysu pan fydd hyn yn digwydd." (Tristan H M)

Gareth G: "Ysgogi cymunedau i fod yn "wyrdd" yw'r ateb mwy na thebyg gan y bydd hyn yn arwain at amhoblogrwydd cynyddol allyrwyr mawr a bydd pobl yn sylweddoli'r effaith maent yn ei chael."

Gus A: "Gellid gwneud mwy i gyfathrebu gyda'r cyhoedd am y strategaeth mae llywodraethau'n ei dilyn i fynd i'r afael â chyfranwyr mawr at yr argyfwng hinsoddol.

Alfie S: “Hyd yn oed os ydych chi'n gweithio mewn canolfan alwadau, dylech wthio i sicrhau y caiff popeth ei wneud gan y cwmni i leihau allyriadau a chynyddu effeithiolrwydd. [...] Gyda'r gyfradd o newid yn yr hinsawdd, ni ellir defnyddio ynni gwyrdd yn llawn tan 2050, ac mae angen buddsoddiad mawr mewn ynni gwyrdd a niwclear arnom. I achub ein byd cyn 2050, mae angen i ni gymryd risgiau economaidd a mynd y tu hwnt i hen dybiaethau ac ymddiried yng ngwyddoniaeth.

 

Os yw myfyrwyr Peirianneg yn Abertawe yn cynrychioli llais y genhedlaeth nesaf, mae'n teimlo fel bod gobaith ar gyfer ein planed. Rydym ni'n eu cefnogi – mewn mwy nag un ffordd – bob cam o'r ffordd.

 

Coladwyd gan Fay Hutchinson, 19 Tachwedd 2019

Lleisiwch eich barn chi ar sut y gall Peirianneg @ Abertawe wneud mwy i gefnogi'r achos – e-bostiwch f.c.hutchinson@abertawe.ac.uk