Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol : Hysgoloriaethau Hyrwyddo'r Dyfodol 2022
Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2022
Gwybodaeth Allweddol
Dyddiadau cau:
- Myfyrwyr rhyngwladol: BELLACH AR GAU
- Myfyrwyr DU: 1 Gorffennaf 2022
Mae ein Hysgoloriaethau Hyrwyddo'r Dyfodol ar gael i ddeiliaid cynnig rhaglen Meistr a addysgir yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol .
Mae'r ysgoloriaeth hon yn cynnig mwy na chymorth ariannol. Bydd y rhai sy'n derbyn ysgoloriaeth yn elwa o gyfleoedd i ennill sgiliau a fydd yn gwella eu gyrfa. Anogir derbynwyr i:
- Weithio gyda thîm marchnata'r Ysgol i helpu i hyrwyddo'r ysgoloriaethau a'r Ysgol;
- Ymuno ag un o'r cymdeithasau myfyrwyr sy'n gysylltiedig â'r Ysgol, neu fod yn gynrychiolydd cwrs ar gyfer eu rhaglen radd;
- Cyfrannu at ddatblygu a rheoli Canolfan Graddedigion yr Ysgol.
Rhaglenni Meistr Cymwys:
- Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Gymhwysol, MA
- Astudiaethau Plentyndod, MA
- Datblygiad a Hawliau Dynol, MA
- Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig, MA
- Economeg a Chyllid, MSc
- Economeg, MSc
- Addysg (Cymru), MA
- Addysg, MA
- Cysylltiadau Rhyngwladol, MA
- Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol, MA
- Gwleidyddiaeth, MA
- Polisi Cyhoeddus, MA
Cymhwyster
Mae’n rhaid bod gennych chi gynnig i astudio’n amser llawn yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Medi 2022 i allu cyflwyno cais.
Byddwn yn ystyried eich:
- Gymhwysedd academaidd
- Angen ariannol
- Brwdfrydedd a'r cynlluniau sydd gennyt ar gyfer y dyfodol
- Gallu a chynlluniau i gyfrannu yn ôl i'r Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr o unrhyw genedligrwydd.
Cyllid
Mae pob ysgoloriaeth yn werth £3,000.
Caiff ysgoloriaethau eu didynnu o ffioedd dysgu.
Sut i wneud cais
I wneud cais, cwblhewch y Ffurflen gais am Ysgoloriaeth Hyrwyddo'r Dyfodol 2022 a'i dychwelyd i FHSS-Scholarships@abertawe.ac.uk.
Dyddiadau cau:
- Mae’r broses cyflwyno cais ar gyfer myfyrwyr Rhyngwladol bellach ar gau.
- Myfyrwyr DU: 1 Gorffennaf 2022
Os oes gennych chi ymholiadau, e-bostiwch FHSS-Scholarships@abertawe.ac.uk.