Dyddiad cau: Cyn gynted â phosib

Gwybodaeth Allweddol

*Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid i’r cynllun bwrsariaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24*

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ariannu ar gyfer cynllun bwrsariaeth STEMM am flwyddyn arall er mwyn denu myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a myfyrwyr i gwblhau eu gradd Meistr yng Nghymru. Mae pob bwrsariaeth yn werth £2,000. Diben y cynllun yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy’n aros yng Nghymru neu sy’n dychwelyd i Gymru i ddilyn cwrs gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth a elwir yn bynciau ‘STEMM.’

Mae’r manylion cymhwysedd allweddol fel a ganlyn:

  • Ar gael i’r rhai sy’n astudio ar raglenni gradd Meistr cymwysmewn pynciau STEMM gwerth 180 o gredydau sy’n dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24. Gweler y rhestr lawn o gyrsiau cymwys isod. 
  • Ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru
  • Mae cyrsiau amser llawn a chyrsiau rhan-amser yn gymwys
  • Ar gael i fyfyrwyr o bob oedran

Mae’r ariannu STEMM hwn yn ychwanegol i gynllun ariannu myfyrwyr ôl-raddedig y llywodraeth ar gyfer myfyrwyr o Gymru ac o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24. 

Am ragor o wybodaeth am ariannu rhaglenni gradd Meistr STEMM ewch i wefan Llywodraeth Cymru

Cymhwyster

 Mae’r manylion cymhwysedd allweddol yn cynnwys:

  • Ar gael i’r rhai sy’n astudio ar raglenni gradd Meistr cymwysmewn pynciau STEMM gwerth 180 o gredydau
  • Ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n byw yng Nghymru.   
  • Mae cyrsiau amser llawn a chyrsiau rhan-amser yn gymwys
  • Ar gael i fyfyrwyr o bob oedran

Sylwer: Ni fydd myfyrwyr a ariennir gan gyllid llywodraeth arall megis Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG/HEIW, DHSSPS neu Gynghorau Ymchwil (KESS II) yn gymwys.

Ar gael i fyfyrwyr rhaglenni gradd Meistr STEMM cymwys sy’n dechrau yn Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24. Disgwylir y bydd y cyrsiau canlynol yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth hon (cadarnheir rhestr lawn y cyrsiau cymwys cyn hir):

  • Addysg ar gyfer y sector Iechyd Proffesiynol, MA
  • Addysg Feddygol, MSc
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth Peirianneg, MSc
  • Astudiaethau Plentyndod, MA
  • Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau, MSc
  • Cyfrifiadureg, MSc
  • Cyfrifiadureg: Informatique, MSc
  • Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-Eang, MSc
  • Data Mawr Dynol-ganolog a Deallusrwydd Artiffisial, MSc
  • Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd, MSc
  • Dulliau Ymchwil ym maes Seicoleg, MSc
  • Ffiseg Ymbelydru Feddygol, MSc
  • Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, MSc
  • Gwaith Cymdeithasol, MSc
  • Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd, MSc
  • Gwybodeg Iechyd, MSc
  • Gwyddor Biofeddygol (Biocemeg Glinigol), MSc
  • Gwyddor Biofeddygol (Microbioleg Glinigol), MSc
  • Gwyddor Data Iechyd, MSc
  • Gwyddor Data Gymhwysol, MSc
  • Gwyddor Ddata, MSc
  • Gwyddor Glinigol (Ffiseg Feddygol), MSc
  • Gwyddor Perfformiad Chwaraeon Uwch, MSc
  • Iechyd Cyhoeddus a Hyrwyddo Iechyd, MSc
  • Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid, MSc
  • Mathemateg, MSc
  • Mecaneg Gyfrifiadurol, MSc
  • Meddygaeth Genomeg, MSc
  • Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon, MA
  • Nanofeddygaeth, MSc
  • Niwrowyddoniaeth Foleciwlaidd, MSc
  • Niwrowyddoniaeth Wybyddol, MSc
  • Peirianneg Awyrofod, MSc
  • Peirianneg Biofeddygol, MSc
  • Peirianneg Bŵer ac Ynni Cynaliadwy, MSc
  • Peirianneg Ddeunyddiau, MSc
  • Peirianneg Electronig a Thrydanol, MSc
  • Peirianneg Fecanyddol, MSc
  • Peirianneg Gemegol, MSc
  • Peirianneg Gyfrifiadurol, MSc
  • Peirianneg Sifil, MSc
  • Peirianneg Strwythurol, MSc
  • Realiti Rhithwir, MSc
  • Rheolaeth Gofal Iechyd, MSc
  • Seiberddiogelwch, MSc
  • Seicoleg Fforensig, MSc
  • Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl, MSc
  • Synhwyro o Bell Drôn Amgylcheddol, MSc
  • Technoleg Feddalwedd Uwch, MSc
  • Uwch Gyfrifiadureg, MSc
  • Uwch Ymarfer Proffesiynol, MSc
  • Ymarfer Clinigol Uwch (Gofal Sylfaenol), MSc
  • Ymarfer Diabetes, MSc
  • Ymarfer gofal Iechyd Cymunedol a Sylfaenol, MSc
  • Ymarfer Uwch mewn Bydwreigiaeth Broffesiynol, MSc
  • Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd, MSc

Am wybodaeth bellach ynghylch y cwrs uchod ewch i dudalen Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir

Cyllid

Mae pob bwrsariaeth yn werth £2,000.

Sut i wneud cais

Caiff bwrsariaethau eu dyfarnu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ i fyfyrwyr cymwys sy’n derbyn cynnig lle i astudio ar gwrs gradd Meistr STEMM cymwys ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oes angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar gyfer yr ariannu hwn.

I gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau’r camau canlynol:

  1. Cyflwyno cais ar gyfer cwrs gradd Meistr cymwys sy’n dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24.
  2. Derbyn eich cynnig lle i astudio yn swyddogol.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch postgraduate.admissions@abertawe.ac.uk

Sylwer, nad oes proses cyflwyno cais ffurfiol ar gyfer y cynllun bwrsariaeth hwn. Bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn cysylltu ag ymgeiswyr a allai fod yn gymwys gan roi rhagor o wybodaeth.