Pob maes pwnc: Bwrsariaethau Llywodraeth Cymru ar Gyfer Cyrsiau Meistr Cyfrwng Cymraeg
Dyddiad cau: Cyn gynted â phosib
Gwybodaeth Allweddol
*Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid i’r cynllun bwrsariaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24*
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi blwyddyn arall o ariannu er mwyn denu myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd (Myfyrwyr nad ydynt yn byw yn y Deyrnas Unedig) i gwblhau eu gradd Meistr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob bwrsariaeth yn werth £1,000.
- Y rhai sy’n astudio ar raglenni gradd Meistr a addysgir gwerth 180 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n rhaid i elfen gyfrwng Cymraeg y rhaglen fod yn werth 40 o gredydau neu’n fwy
- Rhaglenni gradd Meistr cyfrwng Cymraeg cymwys sy’n cychwyn yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24
- Myfyrwyr o Gymru
- Cyrsiau amser llawn a rhan-amser
- Ar gael i fyfyrwyr o bob oedran
Gall myfyrwyr sy’n dewis astudio ar gwrs cymwys ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg neu feddygaeth hefyd dderbyn bwrsariaeth ychwanegol sy’n werth £2,000. Cewch fanylion pellach yma.
Hefyd, os ydych chi dros 60 oed mae ariannu bwrsariaeth pellach ar gael. Cewch fanylion pellach yma.
Mae’r ariannu hwn yn ychwanegol i’r cynllun ariannu i ôl-raddedigion ar gyfer myfyrwyr o Gymru yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24.
Cymhwyster
Mewn egwyddor mae pob un o gyrsiau gradd Meistr a Addysgir y Brifysgol yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth hon cyhyd â bod modd i fyfyriwr astudio elfen ohono trwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae nifer o adrannau’r Brifysgol yn datblygu ac yn cynnig modiwlau cyfrwng Cymraeg neu fodiwlau dwyieithog fel rhan o’u cyrsiau felly bydd angen i chi drafod y posibiliadau gyda’r Cyfarwyddwr Rhaglen perthnasol. Gall myfyriwr astudio modiwl/modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg neu gyflwyno ei draethawd estynedig lefel gradd Meistr yn Gymraeg er mwyn sicrhau cymhwysedd i dderbyn y fwrsariaeth hon.
Sylwer: Ni fydd myfyrwyr a ariennir gan gyllid llywodraeth arall megis Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG/HEIW, DHSSPS neu Gynghorau Ymchwil (KESS II) yn gymwys.
Ymhlith y pynciau lle gellid derbyn cymorth i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg trwy waith yn Rhan 2 y cwrs gradd mae:
Astudiaethau Busnes
- MSc mewn Rheolaeth
- MSc mewn Rheolaeth (Dadansoddeg Busnes)
- MSc mewn Rheolaeth (Mentergarwch ac Arloesedd)
- MSc mewn Rheolaeth (Cyllid)
- MSc mewn Rheolaeth (Rheolaeth Adnoddau Dynol)
- MSc mewn Rheolaeth (Rheolaeth Ryngwladol)
- MSc mewn Rheolaeth (Marchnata)
- MSc mewn Rheolaeth (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi)
Saesneg
- MA mewn Llenyddiaeth Saesneg
- MA mewn Llenyddiaeth Saesneg Cymru
- MA mewn Ysgrifennu Creadigol
Daearyddiaeth
- MSc mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd
- MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd
- MSc mewn Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-Eang
Hanes
- MA mewn Hanes
- MA mewn Hanes Modern
- MA mewn Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth
Y Gyfraith
- LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch
- LLM mewn Ymarfer y Gyfraith Proffesiynol
Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu
- MA Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
- MA Cyfryngau Digidol
Meddygaeth, Geneteg a Biogemeg
- MSc Addysg Feddygol
- MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol
- MSc Ffiseg Ymbelydredd Meddygol
- MSc Gwybodeg Iechyd
- MSc Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol)
- MSc Gwyddor Data Iechyd
- MSc Gwyddor Fiomeddygol (Biocemeg Glinigol)
- MSc Gwyddor Fiomeddygol (Microbioleg Glinigol)
- MSc Meddygaeth Genomeg
- MSc Nanofeddygaeth
- MSc Niwrowyddoniaeth Feddygol
- MSc Ymarfer Diabetes
Iechyd a Gofal
- MSc / PGDip Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd
Ieithoedd Modern a Chyfieithu
- MA mewn Cyfieithu Proffesiynol
Gwaith Cymdeithasol
- MSc mewn Gwaith Cymdeithasol
Cymraeg
- MA mewn Cyfieithu Proffesiynol
Cyllid
Mae pob bwrsariaeth yn werth £1,000. Telir y fwrsariaeth ar ôl i’r ymgeisydd gwblhau 40 o gredydau’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut i wneud cais
Dyfernir bwrsariaethau yn awtomatig ar sail y cyntaf i’r felin i fyfyrwyr sy’n derbyn cynnig lle i astudio ar gwrs gradd Meistr cymwys ym Mhrifysgol Abertawe. Nid oes angen cyflwyno cais ar wahân ar gyfer y cyllid hwn. I gael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau’r camau canlynol:
- Cyflwyno cais ar gyfer cwrs gradd Meistr cymwys sy’n dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod y flwyddyn academaidd 2023/24.
- Derbyn eich cynnig lle i astudio yn swyddogol.
- Anfon neges i astudio@abertawe.ac.ukyn nodi eich bwriad i astudio 40 o gredydau trwy gyfrwng y Gymraeg gan nodi eich enw a’ch dewis cwrs. Dylech chi nodi sut byddwch chi’n cyflawni’r 40 o gredydau e.e. trwy astudio modiwlau penodol yn Rhan 1, neu drwy gyflwyno eich traethawd estynedig neu’ch prosiect Rhan 2 yn y Gymraeg.
Am fanylion pellach, e-bostiwch astudio@abertawe.ac.uk.
Sylwer, nad oes proses cyflwyno cais ffurfiol ar gyfer y cynllun bwrsariaeth hwn. Bydd y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr yn cysylltu ag ymgeiswyr a allai fod yn gymwys gan roi rhagor o wybodaeth.