Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Offer hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Offer hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Rhaglenni Ymchwil
  4. Cyrsiau Ymchwil Uwchraddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. PhD/MPhil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu
  • In this section
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
    • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
    • Cyrsiau Ymchwil Uwchraddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • MA drwy Ymchwil mewn Astudiaethau Americanaidd
      • MA drwy Ymchwil mewn Hanes yr Henfyd
      • MPhil yn y Cyfryngau Digidol
      • MA drwy Ymchwil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol
      • MPhil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil yn y Clasuron
      • MA drwy Ymchwil yn y Dyniaethau Digidol
      • PhD/MPhil mewn Astudiaethau Americanaidd
      • MA drwy Ymchwil yn y Cyfryngau Digidol
      • PhD/MPhil mewn Hanes yr Henfyd
      • MA drwy Ymchwil mewn Eifftoleg
      • PhD/MPhil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol
      • MA drwy Ymchwil mewn Llenyddiaeth Saesneg
      • PhD/MPhil yn y Clasuron
      • MA drwy Ymchwil mewn Hanes
      • PhD/MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol
      • MA drwy Ymchwil mewn Datblygiad Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil mewn Cyfieithu Llenyddol
      • PhD/MPhil mewn Astudiaethau Datblygu
      • PhD/MPhil mewn Eifftoleg
      • MA drwy Ymchwil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu
      • PhD/MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg
      • MA drwy Ymchwil mewn Ieithoedd Modern
      • PhD/MPhil mewn Hanes
      • MA drwy Ymchwil mewn Athroniaeth
      • MA drwy Ymchwil mewn Gwleidyddiaeth
      • PhD/MPhil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu
      • PhD/MPhil mewn Ieithoedd Modern
      • PhD/MPhil mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil mewn Llwyfannu / Sgrinio Ewrop
      • MA drwy Ymchwil mewn Rhyfel a Chymdeithas
      • PhD/MPhil mewn Cyfieithu
      • MA drwy Ymchwil mewn Cymraeg
      • PhD/MPhil mewn Cymraeg
      • PhD/MPhil Addysg
    • Ymchwil yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau ymchwil ôl-raddedig y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ymchwil ôl-raddedig Y Coleg Wyddoniaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Meddygaeth i Ôl-Raddedigion
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
  • Astudio
      • Croeso i Abertawe
        Engineering Central in the sun

        Eich drws i ddyfodol disglair

        Astudio yn Abertawe
      • Israddedig
        • Cyrsiau
        • Llety
        • Diwrnodau Agored
        • Sut i wneud cais
        • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
        • Rhieni a Gwarcheidwaid
        • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
        • Clirio ym Abertawe
      • Ôl-raddedig
        • Cyrsiau
        • Rhaglenni Ymchwil
        • Diwrnod Agored
        • Sut i Wneud Cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Y Brifysgol
        • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Bywyd Myfyriwr
        • Astudio
        • Pam Abertawe
        • Bywyd y campws
        • Chwaraeon
        • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
        • Sefydliad Diwylliannol
        • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
        • Diwrnod Agored Rhithwir
        • Beth yw Pythefnos y Glas?
      • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
        • Llyfrgelloedd ac Archifau
        • BywydCampws
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Menter Myfyrwyr
        • Canolfan Llwyddiant Academaidd
        • Academi Hywel Teifi
        • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
      • Swyddfa'r Wasg
        Female student working with steel

        Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

        Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
      • Y Brifysgol
        • Amdanom ni
        • Sut i ddod o hyd i ni
        • Gwobrau ac Anrhydeddau
        • Hanes a threftadaeth
        • Swyddfa'r Wasg
        • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
        • Cynaliadwyedd
        • Teithio i’r campws ac oddi yno
        • Cysylltu â ni
      • Chwaraeon
        • Cyfleusterau Chwaraeon
        • Iechyd a Ffitrwydd
        • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
        • Chwaraeon i fyfyrwyr
        • Rhaglenni a Digwyddiadau
      • Bywyd y campws
        • Lleoedd Bwyta
        • Sefydliad Diwylliannol
        • Y Neuadd Fawr
        • Taliesin
        • Creu Taliesin
        • Ein Tiroedd
        • Chwaraeon
      • Colegau Academaidd
        • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
        • Coleg Peirianneg
        • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
        • Ysgol y Gyfraith
        • Yr Ysgol Reolaeth
        • Ysgol Feddygaeth
        • Y Coleg Gwyddoniaeth
        • Y Coleg
      • Academïau
        • Academi Iechyd a Llesiant
        • Academi Morgan
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
        • Academi Hywel Teifi
        • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Rhaglenni Ymchwil
  4. Cyrsiau Ymchwil Uwchraddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. PhD/MPhil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu

Astudiaethau'r Cyfryngau, Ph.D. / M.Phil.

Sut i wneud cais
Diwrnod Agored
Gofynnwch gwestiwn i ni

Ail yng Nghystadleuaeth Prifysgol y Flwyddyn

The Times and Sunday Times, Good University Guide 2019

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U./U.E.
  • Rhyngwladol
Ph.D. 3 Blynedd Llawn Amser
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 4,400
Ph.D. 6 Blynedd Rhan Amser
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 2,200
M.Phil. 2 Flynedd Llawn Amser
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 4,400
M.Phil. 4 Blynedd Rhan Amser
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 2,200
Ph.D. 3 Blynedd Llawn Amser
    • Dull Astudio
    • Cynnig Nodweddiadol - Gwybodaeth Rhagor
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 14,950
Ph.D. 6 Blynedd Rhan Amser
    • Dull Astudio
    • Cynnig Nodweddiadol - Gwybodaeth Rhagor
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 7,450
M.Phil. 2 Flynedd Llawn Amser
    • Dull Astudio
    • Cynnig Nodweddiadol - Gwybodaeth Rhagor
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 14,950
M.Phil. 4 Blynedd Rhan Amser
    • Dull Astudio
    • Cynnig Nodweddiadol - Gwybodaeth Rhagor
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 7,450

Trosolwg o'r Cwrs

Mae PhD neu MPhil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eich hoffterau a'ch diddordebau personol.

Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all eich rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer gyrfa yn y byd academaidd, neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis y cyfryngau a chyfathrebu, addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

Mae'r PhD yn cymryd tair blynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu chwe blynedd yn rhan amser, ac mae'r MPhil yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau'n llawn amser neu bedair blynedd yn rhan amser.

Byddwch yn cyflwyno thesis o hyd at 90,000 o eiriau ar gyfer asesiad PhD a 60,000 o eiriau ar gyfer asesiad MPhil, gan ddangos gwaith ymchwil gwreiddiol. Fe'i dilynir gan arholiad llafar yn seiliedig ar y thesis (arholiad viva voce, neu viva).

Yn y ddwy raglen, byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol, o dan oruchwyliaeth ein harbenigwr, gan lunio thesis a fydd yn gwneud cyfraniad gwreiddiol at faes y cyfryngau a chyfathrebu.

Mae ein staff yn aelodau o'r grŵp ymchwil, Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH).

Mae ein harbenigedd yn cynnwys:

  • Astudiaethau Ffilm, yn arbennig sinema Ewropeaidd a Hollywood
  • Y cyfryngau byd-eang, newyddiaduraeth a chyfathrebu rhyngwladol
  • Y cyfryngau digidol ac actifiaeth gymdeithasol
  • Mudo a chyfathrebu
  • Y cyfryngau digidol
  • Hanes ac athroniaeth technoleg
  • Cysylltiadau Cyhoeddus, Brandio a Marchnata 


Cewch eich goruchwylio'n agos gan ddau academydd profiadol ag arbenigedd perthnasol drwy gydol eich prosiect. Gwneir hyn ar ffurf cyfarfodydd bob pythefnos yn ystod eich tymor cyntaf a chynhelir cyfarfodydd ar gyfnodau rheolaidd y cytunir arnynt wedi hynny.

Byddwch yn meithrin ac yn mireinio'r sgiliau ymchwil sydd eu hangen ar gyfer gwaith lefel uchel mewn unrhyw faes sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a chyfathrebu, ac mae'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant sydd ar gael ar y campws yn cynnig cymorth pellach. Cewch gyfle i wneud cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff yn ystod seminarau adrannol, ac yng nghynhadledd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Ôl-raddedigion.

Mae'n bosibl y cewch gyfle hefyd i addysgu tiwtorialau a seminarau i israddedigion o'r ail flwyddyn, a chewch hyfforddiant a thâl am wneud hynny. Darperir cymorth ariannol hefyd (yn amodol ar gymeradwyaeth) er mwyn mynychu cynadleddau neu gynnal gweithgareddau ymchwil nad ydynt yn Abertawe.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws ol-raddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Gofynion Mynediad

MPhil - Dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf, neu gymhwyster cyfatebol, mewn pwnc cysylltiedig, neu dylai bod disgwyl i chi gyflawni cymhwyster o'r fath. Os oes gennych gymhwyster o sefydliad nad yw yn y DU, gweler ein gofynion mynediad academaidd ar gyfer Cymwysterau rhyngwladol (nad ydynt yn gymwysterau o'r UE) a Cymwysterau'r UE (nad ydynt yn gymwysterau o'r DU).

PhD - Dylech feddu ar radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) o leiaf, neu gymhwyster cyfatebol, a dylech feddu ar radd Meistr ôl-raddedig mewn pwnc cysylltiedig, neu dylai bod disgwyl i chi gyflawni cymhwyster o'r fath. Os oes gennych gymhwyster o sefydliad nad yw yn y DU, gweler ein gofynion mynediad academaidd ar gyfer Cymwysterau rhyngwladol (nad ydynt yn gymwysterau o'r UE) a Cymwysterau'r UE (nad ydynt yn gymwysterau o'r DU).

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf bydd angen marc llwyddo derbyniol mewn cymhwyster Saesneg cymeradwy arnoch er mwyn gwneud yn siŵr y byddwch yn gallu manteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau yn Abertawe. Rydym yn ystyried amrywiaeth eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr o 6.5 a 6.5 o leiaf ym mhob elfen). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yn: www.swansea.ac.uk/english-tests

Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gellir seilio penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr ar ffactorau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad yn ystod y cyfweliad, lefel y gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol.

Gofyniad am eirda

Yn arferol, gofynnir am ddau eirda cyn y gallwn anfon ceisiadau i Diwtor Derbyn rhaglenni ymchwil y Coleg/Ysgol i'w hystyried.

Caiff ceisiadau a dderbynnir heb ddau eirda wedi'u hatodi atynt eu gohirio nes y derbynnir y geirda sy'n weddill. Sylwer y gall oedi hir wrth dderbyn y geirda sy'n weddill arwain at ohirio'ch cais tan ddyddiad cychwyn/mis derbyn posib diweddarach, o'i gymharu â'r dyddiad y rhestroch yn gychwynnol fel y dyddiad dechrau o'ch dewis.

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â'ch canolwr (canolwyr) i'n cynorthwyo wrth dderbyn y geirda sy'n weddill neu, fel arall, gallwch ohirio cyflwyno'ch cais nes eich bod wedi dod o hyd i'ch geirda. Sylwer nad cyfrifoldeb Swyddfa Derbyn y Brifysgol yw dod o hyd i'r geirda sy'n weddill ar ôl i ni anfon e-bost cychwynnol at y canolwyr (canolwyr) a enwebwyd gennych, gan ofyn am eirda ar eich rhan chi.

Gall y geirda hwn fod ar ffurf llythyr ar bapur pennawd swyddogol neu gellir ei gyflwyno ar ffurflen geirda safonol y Brifysgol. Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho ffurflen geirda'r Brifysgol.

Fel arall, gall canolwyr anfon geirda mewn e-bost o'u cyfrif e-bost gwaith. Sylwer na ellir derbyn geirda a anfonir oddi wrth gyfrifon e-bost preifat, (h.y. Hotmail, Yahoo, Gmail).

Gellir cyflwyno geirda i pgradmissions@abertawe.ac.uk.

Sut rydych chi'n cael eich goruchwylio

Rydym yn anelu at sicrhau y caiff pob myfyriwr sy'n astudio MPhil/PhD yr oruchwyliaeth arbenigol sydd ei hangen i gwblhau ei brosiect o fewn y cyfnod astudio.Neilltuir o leiaf ddau oruchwylydd sy'n rhan o'r Adran i chi. Ar ôl derbyn eich cais, byddwn yn nodi'r goruchwylwyr y mae eu harbenigedd ymchwil yn cyfateb i'r pwnc a ddewiswyd gennych.

Fel arfer, byddwch yn cyfarfod â'ch goruchwylwyr unwaith y mis, ac o bosibl yn amlach ar adegau pwysig yn ystod eich astudiaethau, gan gynnwys paratoi ar gyfer eich cyflwyniad terfynol. Pan fyddwch yn dechrau'r cwrs gradd, byddwch yn llunio cynllun ymchwil gyda'ch goruchwylwyr.  Ar ôl cwblhau naw mis o'ch cyfnod astudio, byddwch yn cyflwyno eich darn cyntaf o waith ysgrifenedig sylweddol (e.e. pennod ddrafft o'ch thesis) a chynllun manwl ar gyfer eich thesis. Wedi hynny, bydd y Brifysgol yn asesu eich cynnydd bob 6 mis.  Mae myfyrwyr M.Phil yn gymwys i wneud cais i uwchraddio i Ph.D os byddant yn dangos y gallu i berfformio ar lefel doethuriaeth.

Darpariaeth Gymraeg

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, mae ein hacademi bwrpasol, Academi Hywel Teifi, yma i’ch cefnogi gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Cyfweliad cyfrwng Cymraeg wrth wneud cais am le ar gwrs.
  • Dewis i gael gohebiaeth bersonol yn y Gymraeg – byddwn yn cyfathrebu yn eich dewis iaith.
  • Dewis i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs, a gwneud eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os mai Saesneg yw iaith eich astudiaethau) a gwneir pob ymdrech i’w farcio yn yr iaith wreiddiol.
  • Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg.
  • Cymorth un-i-un i wella’ch sgiliau Cymraeg academaidd.

Ers 2011, mae cynnydd o 40% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ôl ein data *TEF o’r ddwy flynedd ddiwethaf mae myfrywyr Cymraeg eu hiaith yn llwyddiannus iawn o safbwynt cyflogadwyedd (*canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018).

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
Ph.D. Llawn Amser £ 4,400 £ 14,950
Ph.D. Rhan Amser £ 2,200 £ 7,450
M.Phil. Llawn Amser £ 4,400 £ 14,950
M.Phil. Rhan Amser £ 2,200 £ 7,450

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Noder: Ffigur dangosol yw ffi'r Deyrnas Unedig/yr Undeb Ewropeaidd, sy'n amodol ar gadarnhad gan UKRI

Os bydd eich cwrs yn cychwyn ym mis Ionawr, Ebrill neu Orffennaf 2020, gweler costau ffioedd 2019/20 ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr rhyngwladol ac astudiaethau rhan-amser: Bellach mae'n bosibl i rai myfyrwyr astudio'n rhan-amser o dan lwybr fisa Haen 4. Mae hyn yn dibynnu ar ffactorau sy'n ymwneud â'r cwrs a'ch sefyllfa unigol. Efallai y bydd yn bosibl astudio gyda ni hefyd os ydych chi eisoes yn y DU o dan gategori fisa gwahanol. Ewch i wybodaeth y Brifysgol am Visas a Mewnfudo am arweiniad a chefnogaeth bellach.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Mae arian gan y llywodraeth bellach ar gael ar gyfer myfyrwyr o Gymru, Lloegr a'r UE sy'n dechrau ar raglenni ymchwil Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Gallwch wynebu costau ychwanegol yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • Parcio yn y cae hamdden a theithio i'r campws ac oddi yno
  • Argraffu, llungopïo, costau deunyddiau a chyfarpar ysgrifennu (e.e. cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Argraffu a rhwymo
  • Gŵn ar gyfer seremonïau graddio

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein ac olrhain statws eich cais yn www.swansea.ac.uk/applyonline.

Mwy nag un dyddiad cychwyn - 1af Hydref, 1af Ionawr, 1af Ebrill a 1af Gorffennaf

Cyrsiau paratoi cyn y tymor Gallwch ddatblygu eich sgiliau academaidd, eich dealltwriaeth o derminoleg sy’n benodol i’r pwnc a Saesneg academaidd

  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
    • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
    • Cyrsiau Ymchwil Uwchraddedig Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • MA drwy Ymchwil mewn Astudiaethau Americanaidd
      • MA drwy Ymchwil mewn Hanes yr Henfyd
      • MPhil yn y Cyfryngau Digidol
      • MA drwy Ymchwil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol
      • MPhil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil yn y Clasuron
      • MA drwy Ymchwil yn y Dyniaethau Digidol
      • PhD/MPhil mewn Astudiaethau Americanaidd
      • MA drwy Ymchwil yn y Cyfryngau Digidol
      • PhD/MPhil mewn Hanes yr Henfyd
      • MA drwy Ymchwil mewn Eifftoleg
      • PhD/MPhil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol
      • MA drwy Ymchwil mewn Llenyddiaeth Saesneg
      • PhD/MPhil yn y Clasuron
      • MA drwy Ymchwil mewn Hanes
      • PhD/MPhil mewn Ysgrifennu Creadigol
      • MA drwy Ymchwil mewn Datblygiad Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil mewn Cyfieithu Llenyddol
      • PhD/MPhil mewn Astudiaethau Datblygu
      • PhD/MPhil mewn Eifftoleg
      • MA drwy Ymchwil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu
      • PhD/MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg
      • MA drwy Ymchwil mewn Ieithoedd Modern
      • PhD/MPhil mewn Hanes
      • MA drwy Ymchwil mewn Athroniaeth
      • MA drwy Ymchwil mewn Gwleidyddiaeth
      • PhD/MPhil yn y Cyfryngau a Chyfathrebu
      • PhD/MPhil mewn Ieithoedd Modern
      • PhD/MPhil mewn Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
      • MA drwy Ymchwil mewn Llwyfannu / Sgrinio Ewrop
      • MA drwy Ymchwil mewn Rhyfel a Chymdeithas
      • PhD/MPhil mewn Cyfieithu
      • MA drwy Ymchwil mewn Cymraeg
      • PhD/MPhil mewn Cymraeg
      • PhD/MPhil Addysg
    • Ymchwil yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau ymchwil ôl-raddedig y Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ymchwil ôl-raddedig Y Coleg Wyddoniaeth
    • Cyrsiau Ymchwil Meddygaeth i Ôl-Raddedigion
    • Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Sut i wneud cais Diwrnod Agored
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342
  • Facebook link
  • Instagram link
  • Twitter link
  • youtube link
  • flickr link
  • linkedin link