Sesiynau Ceisiadau Llyfrgell

Ydych chi wedi dechrau eich cais am radd Meistr neu'n meddwl am gyflwyno cais am radd Meistr? Ewch i'n Sesiynau Ceisiadau Llyfrgell yn ystod yr amseroedd canlynol i gwblhau eich cais gyda chyngor arbenigol gan y staff Derbyn.

  • 25 Ebrill 2023 @ 11:30-13:30, Llyfrgell Campws Parc Singleton
  • 27 Ebrill 2023 @ 11:30-13:30, Llyfrgell Campws y Bae

Rhaglenni llwybr carlam ar gael o fis Medi 2023

Rydym ni'n llawn cyffro wrth gyhoeddi ein hopsiwn carlam i raddau ôl-raddedig a fydd yn dechrau ym mis Medi 2023. Fel myfyriwr presennol i ni, gelli di gyflwyno cais i astudio ar gwrs Meistr cymwys drwy lwybr carlam. Mae'n gyflym ac yn hawdd a byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn 48 o oriau gwaith!

Sut i gyflwyno cais:

Gan eich bod yn fyfyriwr presennol sydd yn eich blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi anfon côd arbennig atoch i gyflwyno cais drwy lwybr carlam. Felly, a wnewch chi wirio eich cyfrif e-bost a dilyn y cyfarwyddiadau.

Rhestr o gyrsiau Meistr cymwys

Cyfadran y Dyniaethau A’r Gwyddorau Cymdeithasol

Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd