Ashish Dwivedi, MPhil Llenyddiaeth Saesneg
Canfod fy llais fel ymchwilydd ac arweinydd y dyfodol mewn cymuned fyd-eang
“Yn gynhwysol ac yn cael ei arwain gan ymchwil”
Mae'r Ymchwilydd ôl-raddedig Ashish Dwivedi (MPhil yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau) yn trafod sut mae ei amser ym Mhrifysgol Abertawe wedi ei alluogi i gymdeithasu mewn cymuned fywiog, ryngwladol ac ôl-raddedig, ychwanegu at ei CV ac olrhain ei ddiddordebau personol.
Darllenwch fwy am brofiad Ashish.
Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ein PhD/MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg.
Manuela Pacciarini, PhD Astudiaethau Meddygaeth A Gofal Iechyd
Rhannu syniadau a datrys problemau fel ymchwilydd ôl-raddedig
“Mae Abertawe’n fy ngalluogi i fod y fersiwn orau o fi fy hun”
Mae’r ymchwilydd ôl-raddedig Manuela Pacciarini (PhD, Ysgol Feddygaeth) ac enillydd Thesis Tair Munud 2020 Prifysgol Abertawe’n trafod ei chariad at gyfathrebu gwyddoniaeth, ymchwil i lipidau ac arfordir Abertawe.
Darllenwch fwy am brofiad Manuela.
Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ein PhD Astudiaethau Meddygaeth A Gofal Iechyd.
Dr Murhaf Korani, PhD Iechyd Y Cyhoedd
“Des i â’m sgiliau newydd adref gyda fi”
Mae Dr Murhaf Korani, Athro Cynorthwyol a Dirprwy Ddeon ar gyfer Materion Ysbyty ym Mhrifysgol Umm Al-Qura yn Sawdi-Arabia yn trafod ei brofiadau o wneud ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, a sut mae’r cymorth a’r arweiniad a gafodd wedi ei helpu i ddatblygu ei yrfa academaidd.
Fy ymchwil
Roedd fy ymchwil PhD i yn ymchwilio i sut mae gordewdra yn amrywio rhwng grwpiau ethnig gwahanol. Yn y DU, mae ymchwilwyr wedi ystyried sut y gall gwahaniaethau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol achosi amrywiad o ran lefelau o ordewdra mewn plant rhwng grwpiau ethnig gwahanol, ynghyd â ffactorau eraill megis y gwahaniaethau rhwng geneteg, cymeriant maetholion a lefelau o weithgarwch. Mesurodd fy ymchwil y gwahaniaethau rhwng canfyddiadau mamau, arddull bwydo plant ac ymddygiad bwydo mamau rhwng grwpiau ethnig yn y DU. Roedd gen i ddiddordeb penodol yn y cysylltiad dwfn rhwng ymddygiad rhai mamau a bwyd, ystyr diwylliant, crefydd draddodiadol a gwaith cymdeithasol.
Darllenwch fwy am brofiad Dr Korani.
Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ein PhD Iechyd Y Cyhoedd.
AARON BROWN, PHD MEWN TROSEDDEG
Cwblhaodd Aaron PhD mewn Troseddeg yn Ysgol y Gyfraith Abertawe’n ddiweddar a bellach mae’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil.
Mae fy nghyfnod fel myfyriwr ôl-raddedig yn yr Adran Droseddeg, ar lefel MA a PhD, wedi bod yn ysgogol ac yn bleser mawr hefyd. Wrth wneud fy ymchwil, rwyf wedi cael fy syfrdanu gan arbenigedd academaidd y staff ond hefyd gan y gofal bugeiliol maen nhw’n ei gynnig i fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae fy ngoruchwylwyr, yn ogystal â staff yr adran ehangach, wedi bod yn gymwynasgar iawn, yn hael gyda’u hamser ac yn barod bob amser i rannu eu gwybodaeth a’u profiad.
Rwyf wedi elwa’n enfawr hefyd o’r amrywiaeth eang o brofiadau sydd ar gael ar lefel ôl-raddedig, gan gynnwys y cyfle i gynllunio ac addysgu seminarau, a chyfleoedd amrywiol i fynd i gynadleddau a chyflwyno ynddynt. Yn y bôn byddwn i’n argymell yn gryf i chi astudio ar gwrs ôl-raddedig yn yr adran Droseddeg. Fyddwch chi ddim yn difaru cyflwyno cais!
Hannah Jones, PhD mewn Iechyd Cyhoeddus
Cwblhaodd Hannah'r MSc mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd cyn ymgymryd â swyddi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Dychwelodd Hannah i Abertawe i ddechrau PhD mewn Iechyd Cyhoeddus, ac mae'n agos at ei chwblhau:
Derbyniais e-bost gan Abertawe â manylion am ysgoloriaeth PhD. Roeddwn i'n hapus iawn yn fy swydd ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n gyfle gwych, a dweud y lleiaf. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael cynnig yr ysgoloriaeth ac roeddwn i o'r farn bod hwn yn gyfle anhygoel i wneud mwy o ymchwil ar bwnc sydd o ddiddordeb imi. Hefyd, dylanwadodd y cynnig o ysgoloriaeth ar fy mhenderfyniad gan na fyddwn wedi gallu gwneud y PhD heb gymorth ariannol.
Mae fy PhD yn canolbwyntio ar ymddygiad glân i helpu i atal pathogenau rhag ymledu mewn pyllau nofio. Mae'r profiad o addysgu wedi bod yn hynod werthfawr ac mae'n sgil gwych i’w nodi ar fy CV. Rwy wedi cael y cyfle i gyflwyno fy ymchwil mewn cynadleddau a chwrdd â chydweithwyr o ddiwydiannu gwahanol.
Y peth anoddaf imi yw ceisio sicrhau y caiff yr holl waith ei gwblhau yn brydlon. Gall deimlo'n ynysig, yn enwedig os nad oes gennych ddarlithoedd lle byddwch yn dod ynghyd fel grŵp. Fodd bynnag, mae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau sy'n cynnig cyfleoedd i gwrdd â myfyrwyr PhD eraill. Mae cadw fy nghymhelliant am bron tair blynedd wedi bod yn anodd, ond eich penderfyniad chi a'ch goruchwylwyr yw creu terfynau amser.
Stuart Booker, PhD Hanes
Wedi cwblhau BA ac MA yn Abertawe, mae Stuart wedi cychwyn PhD mewn Hanes yn ddiweddar, gan ymchwilio i'r berthynas rhwng Cymru a Chynghrair y Cenhedloedd:
Roedd fy astudiaethau PhD i yn ganlyniad fy mhrofiad o astudio Hanes yn Abertawe, a datblygodd ffocws fy PhD o'r pynciau a astudiais ar gyfer traethodau fy BA a'm MA. Gan edrych tua'r dyfodol, fy nyhead gyrfa yw ennill y PhD er mwyn dilyn gyrfa yn academia neu ymchwil hanesyddol.
Fel lleoliad, mae gan Abertawe y gorau o ddau fyd. Mae ganddi'r cyfleusterau a’r nodweddion dinas heb ichi deimlo eich bod chi'n byw mewn un. O gofio topograffeg Abertawe, nid ydych chi byth yn bell o fan agored, sy'n cynnig cyfleoedd diddiwedd o ran adloniant. Ar ôl treulio oriau yn y llyfrgell neu'r archifau, does dim byd gwell na mynd mas i redeg o gwmpas rhai o lwybrau trawiadol Abertawe neu fynd i'r traeth gyda ffrindiau.
Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig nifer o gyfleoedd allgyrsiol a wnaeth gryfhau fy CV a’m helpu i ddatblygu fel unigolyn. Gweithiais fel Myfyriwr Llysgennad, gan rannu fy mhrofiad i fel myfyriwr gyda darpar fyfyrwyr. Mae'r Gymdeithas Hanes yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd academaidd a chymdeithasol. Hefyd, penderfynais i ddechrau math o chwaraeon newydd pan ddechreuais i fy ngradd israddedig. O ganlyniad, des i'n aelod pwysig o'r Gymdeithas Athletau, gan fod yn Is-gapten yn ystod yr ail flwyddyn o'm hastudiaethau israddedig.