Llun du a gwyn o fyfyriwr benywaidd

PhD Astudiaethau Meddygaeth A Gofal Iechyd

Rhannu syniadau a datrys problemau fel ymchwilydd ôl-raddedig

“Mae Abertawe’n fy ngalluogi i fod y fersiwn orau o fi fy hun”

Mae’r ymchwilydd ôl-raddedig Manuela Pacciarini (PhD, Ysgol Feddygaeth) ac enillydd Thesis Tair Munud 2020 Prifysgol Abertawe’n trafod ei chariad at gyfathrebu gwyddoniaeth, ymchwil i lipidau ac arfordir Abertawe.

Fy ymchwil

Mae fy ymchwil PhD yn archwilio pam a sut rydym yn datblygu clefydau niwroddirywiol megis clefydau Alzheimer, Parkinson a Huntington, drwy nodi gwahaniaethau perthnasol mewn plasma a hylif cerebrosinol (hylif sydd o amgylch yr ymennydd), cynnwys lipidau rhwng pobl sy’n cael eu heffeithio gan y clefydau hyn a phobl iach. Gallai deall y gwahaniaeth hwn ein helpu i symud yn gyflymach at ddiagnosio a thrin pobl yn fwy effeithiol sy’n cael eu heffeithio gan y clefydau niwroddirywiol hyn.

Ymgartrefu yma

Cyn i mi ddod yma, astudiais yn yr Eidal a gweithio mewn labordai eraill o gwmpas Ewrop, gan gynnwys Ffrainc. Rwyf bob amser wedi dwlu ar ymchwil i lipidau a’i gyfraniad i iechyd dynol, ac rwy’n gemegydd meddygol hyfforddedig. Roedd yr Athro William Griffiths a’r Athro Yuqin Wang yn chwilio am gemegydd i ymgymryd ag ymchwil ar ddarganfod biofarcwyr lipidau, drwy gynllun Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES), sy’n cynnig ysgoloriaethau PhD a ariennir yn llawn gyda chyflog blynyddol. Roedd y cyfle hwn yn cyfuno fy nghariad at helpu pobl gyda’m cariad at gemeg lipidau – roedd yn rhaid i mi gyflwyno cais!

Gweithiais mor galed ar fy nghais, a oedd yn cynnwys fy CV a chynnig ymchwil (gan gynnwys adrannau ar Adolygu Llenyddiaeth, Methodoleg, Graddfeydd Amser Prosiectau). Yna anghofiais yn llwyr amdano! Ond pan dderbyniais e-bost gan Brifysgol Abertawe’n fy ngwahodd i gael cyfweliad roeddwn wrth fy modd. Pan gyrhaeddais yma a gweld Campws Singleton, roeddwn yn meddwl ei fod yn hardd iawn. Roeddwn wedi gweld cynifer o luniau ohono, ond doedd dim byd yn cymharu â realiti. Sylweddolais mai dyma le yr oeddwn am fod am y pedair blynedd nesaf. 

Ger y môr a chefn gwlad

Dechreuais i fy PhD ym mis Hydref, a phenderfynais i ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf y byddwn yn byw ar y campws i gael profiad go iawn Prifysgol Abertawe, a chefais fy mhlesio. Ers hynny, rwyf wedi canfod tŷ preifat am weddill fy astudiaethau PhD.

Mae Abertawe fel dinas yn agos i’r môr a chefn gwlad, sy’n ei gwneud yn lle gwych i mi. Mae’r arfordir yn anhygoel, gallwch archwilio Bae Abertawe, Y Mwmbwls, Langland, Rhosili… mae’n wych.

Ond nid lleoliad Abertawe’n unig sy’n ei gwneud yn lle mor hyfryd i fyw ynddo – mae’r bobl yma wedi bod mor groesawgar hefyd. Mae pobl am ddod i’ch adnabod chi ac mae pawb mor garedig. Rwyf hefyd wedi darganfod cymuned ryngwladol fawr iawn yma, gyda llawer o nosweithiau allan a digwyddiadau sy’n ein helpu i ddod i adnabod ein gilydd a rhannu ein diwylliant. Rwy’n dwlu arno!

Darganfod cariad at gyfathrebu gwyddoniaeth

Roeddwn wedi clywed am gystadleuaeth y Thesis Tair Munud (3MT) i ymchwilwyr ôl-raddedig a phenderfynu cymryd rhan. Tua phythefnos cyn hynny, roeddwn yn gallu cael sesiwn hyfforddi un-i-un gydag aelod o swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig, a byddem yn ei argymell i bawb. Gwnaethom drafod fy nghyflwyniad a sut byddem yn strwythuro’r sleid (dim ond un chi’n ei gael!), a chefais lawer o gyngor arbennig. Dywedodd yr hyfforddwr yn y swyddfa ymchwil ôl-raddedig sut gallem wneud fy nghyflwyniad yn fwy dealladwy i’r gynulleidfa gyhoeddus, megis newid y gair ‘lipidau’ am ‘fraster’.

Nawr, rwy’n teimlo’n fwy cyfforddus am drosi cynnwys gwyddonol anodd yn eiriau a brawddegau sy’n hawdd eu deall. Mae’n ddiwerth os mai llond llaw o bobl sy’n deall eich gwaith – mae angen i chi rannu’r wybodaeth honno â phawb. Yn y dyfodol, rwyf am wneud mwy o gyfathrebu gwyddoniaeth, diolch i’r anogaeth gan Brifysgol Abertawe i rannu ymchwil effaith uchel â’r cyhoedd. Pan oedd yn rhaid i mi berfformio yn y gystadleuaeth 3MT, roeddwn yn nerfus i ddechrau, ond pan welais yr ymchwilwyr ôl-raddedig gwych ar draws y Brifysgol yn rhannu eu syniadau, dechreuais ymlacio. Gwnes ddwlu ar y profiad!

Amgylchedd cefnogol, cyfleusterau gwych

Mae fy ngrŵp a fy ngoruchwylwyr bob amser yno i mi, yn rhoi cyngor. Dyw hynny ddim yn golygu eu bod yn rhoi’r atebion i mi, ond maent yn fy annog i fyfyrio ar yr hyn rwyf yn ei wneud a chanfod yr ateb. Rwyf wedi gweithio mewn labordai ar draws Ewrop ac nid wyf erioed wedi bod mewn amgylchedd mor gefnogol a chyfeillgar. Pan welais labordy a chyfarpar y Sefydliad Gwyddorau Bywyd, fel y màs sbectromedr, roedd yn teimlo fel breuddwyd!

Mae tîm y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig bob amser yn hynod o garedig ac yn ateb fy nghwestiynau’n gyflym, ac maent yn cynnal digwyddiadau a hyfforddiant pwysig iawn – gan gynnwys cwrs dadansoddi data gwych. Rwyf wedi mwynhau fy nosweithiau allanol gydag Ymchwil Ôl-raddedig yn fawr, megis cwisiau tafarn, sy’n ffordd wych i gwrdd ag ymchwilwyr ôl-raddedig eraill.

Mae’r Ysol Feddygaeth hefyd yn trefnu cyfres o seminarau er mwyn galluogi ymchwilwyr ôl-raddedig i rannu eu hymchwil, gydag uwch-academyddion gwych. O ran cefnogaeth, mae’r Gweinyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig, Georgie Thomas ac Ian Prout, bob amser wedi bod yno i’m helpu ac ateb fy nghwestiynau.

O ran y dyfodol, fy amcanion yw bod y fersiwn orau y gallaf fod o fi fy hun a’r gwyddonydd gorau. Mae fy mhrofiad ym Mhrifysgol Abertawe’n ganolog i hyn: bob dydd rydym yn rhannu syniadau a dim ond trwy gydweithio yn y ffordd hon y gallwn ddatrys heriau gwyddonol o bwys.

Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ein PhD Astudiaethau Meddygaeth A Gofal Iechyd.