Myfyriwr gwrywaidd yn gwisgo keffiyeh (Penwisg Arabaidd)

PhD Iechyd Y Cyhoedd

Cymorth i ddatblygu fy ngyrfa academaidd yn y dyfodol

“Des i â’m sgiliau newydd adref gyda fi”

Mae Dr Murhaf Korani, Athro Cynorthwyol a Dirprwy Ddeon ar gyfer Materion Ysbyty ym Mhrifysgol Umm Al-Qura yn Sawdi-Arabia yn trafod ei brofiadau o wneud ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, a sut mae’r cymorth a’r arweiniad a gafodd wedi ei helpu i ddatblygu ei yrfa academaidd.

Fy ymchwil

Roedd fy ymchwil PhD i yn ymchwilio i sut mae gordewdra yn amrywio rhwng grwpiau ethnig gwahanol. Yn y DU, mae ymchwilwyr wedi ystyried sut y gall gwahaniaethau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol achosi amrywiad o ran lefelau o ordewdra mewn plant rhwng grwpiau ethnig gwahanol, ynghyd â ffactorau eraill megis y gwahaniaethau rhwng geneteg, cymeriant maetholion a lefelau o weithgarwch. Mesurodd fy ymchwil y gwahaniaethau rhwng canfyddiadau mamau, arddull bwydo plant ac ymddygiad bwydo mamau rhwng grwpiau ethnig yn y DU. Roedd gen i ddiddordeb penodol yn y cysylltiad dwfn rhwng ymddygiad rhai mamau a bwyd, ystyr diwylliant, crefydd draddodiadol a gwaith cymdeithasol.

Yn ffodus i ddewis Abertawe

Pan oeddwn i’n chwilio am gyfle i wneud PhD, roeddwn i’n chwilio am oruchwylydd gydag arbenigedd yn fy niddordeb ymchwil i, sef gordewdra mewn plant. Des i o hyd i'r Athro Amy Brown yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Roeddwn i’n ffodus i ddewis Abertawe. Roedd yn ddinas dawel a diogel gydag arfordir hyfryd, ac roeddwn i ar Gampws Singleton. Doeddwn i ddim yn edifarhau dim byd!

Mae’r Brifysgol yn dafliad carreg o’r traeth, ac mae’r ddinas wedi’i hamgylchynu gan fryniau, felly gallwch ddianc i fyd natur yn gyflym iawn a mwynhau naws hardd. Mae pobl Abertawe mor gyfeillgar o’u cymharu â phobl dinasoedd eraill rwyf wedi ymweld â nhw yn y DU.

Popeth yr oedd ei angen arnaf i wneud fy ngwaith ymchwil

Roedd gan y Brifysgol bopeth yr oedd ei angen arnaf i wneud fy ngwaith ymchwil – adeilad gwych a staff hyfryd. Roeddwn i wrth fy modd o’r diwrnod cyntaf oll.

Rydych chi’n cael y cyfle i gwrdd â llawer o ymchwilwyr o bob rhan o’r Brifysgol, sy’n helpu wrth feithrin rhwydwaith. Yn fy Ngholeg i, sefydlon ni gyfarfod grŵp rheolaidd i ymchwilwyr ôl-raddedig, lle gallai pawb gyfnewid syniadau a thanio syniadau ar gyfer goresgyn anawsterau cyffredin. Er bod gennym ni i gyd oruchwylwyr gwahanol,  roedd gennym brofiad a maes ymchwil cyffredin. Er enghraifft, roedd ymchwilydd ôl-raddedig arall wedi argymell llyfr i mi i lywio fy ngrwpiau ffocws, a oedd yn ddefnyddiol iawn.

Roedd staff Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a’m goruchwylydd mor gefnogol ac anogol. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd gorffen mewn pryd oherwydd problem gyda chasglu data, felly gofynnais i i’r Rheolwr Ymchwil Ôl-raddedig, Maria Davis, beth gallwn i ei wneud, a chefais ei help hi i ddatblygu dadl am estyniad o 1 mis, a chefais gefnogaeth ganddi i drafod hyn gyda fy ngoruchwylydd hefyd.

Anogaeth i gyhoeddi ac ehangu gorwelion

Bob blwyddyn yn fy Ngholeg, cynhaliwyd Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig lle gallai ymchwilwyr ôl-raddedig gyflwyno ar bynciau gwahanol ynghyd ag athrawon a darlithwyr o fri, a oedd wedi rhoi profiad hollbwysig i mi o gyflwyno ac esbonio fy ngwaith. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cymryd rhan os cewch chi’r cyfle!

Un o’m hatgofion mwyach balch oedd pan ddywedodd fy ngoruchwylydd, yr Athro Amy Brown, wrtha i fod ein dau bapur wedi cael eu derbyn i’w cyhoeddi. Rwyf mor ddiolchgar i’r Athro Brown am fy annog i a phob un o’i myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith. Yn ogystal, rhoddodd fy ngoruchwylydd yr hyder i mi gyflwyno fy ngwaith mewn cynhadledd ryngwladol yn Amsterdam. Roeddwn i’n nerfus, ond dywedodd hi “Paid â phoeni, dw i yma” wrtha i. Roedd hwnnw’n brofiad gwych, gan wir helpu i ddatblygu fy ymchwil PhD.

Drwy fy astudiaethau PhD, cefais yr wybodaeth a’r hyder i fod yn academydd, a thrwy'r profiad hwn, dechreuais fwynhau ymchwil o ddifrif. Cefais yr wybodaeth i ymchwilio, o’r hanfodion a llunio cynnig i gyhoeddi.

Cael profiad gwahanol

Des i i’r DU i gael profiad gwahanol ac i ddysgu, a bellach rwyf wedi dychwelyd i Sawdi-Arabia gan ddod â’r sgiliau hynny gyda fi. Rwy’n gweithio fel Athro Cynorthwyol a Dirprwy Ddeon Materion Ysbytai yng Nghyfadran y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Umm Al-Qura. Rwyf yn parhau â’m hymchwil i ordewdra, gan ddatblygu gwaith fy PhD, ynghyd â diddordeb cysylltiedig mewn diabetes, gorbwysedd ac ymddygiad cymdeithasol. Rwy’n ymchwilio i fynychder gordewdra mewn plant ysgolion cynradd yn y rhanbarth cyfagos, a hefyd sut y gall bwydo gan rieni effeithio ar bwysau plant. Mae gennyf swydd academaidd amrywiol iawn, ac rwyf hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr mewn ysbytai at ddibenion hyfforddiant, cyflwyno darlithoedd a goruchwylio prosiectau’r flwyddyn olaf.

Fy nghyngor i i ymchwilwyr ôl-raddedig yw ymdrechwch i gael gwybodaeth, darllenwch gymaint â phosib a pheidiwch â bod yn swil! Mae pawb yn dysgu, felly siaradwch ag ymchwilwyr ôl-raddedig eraill a goruchwylwyr os ydych chi’n cael anawsterau. Cyflwynwch eich gwaith mewn cynadleddau (bydd yn dod yn fwy cyfarwydd i chi) a defnyddiwch y cwestiynau a gewch chi i ehangu gorwelion eich ymchwil. Mae gwneud PhD yn daith, ac ar adegau, gall fod yn heriol neu eich ynysu. Daliwch ati a byddwch yn dod o hyd i’ch ffordd.

Yn y dyfodol, byddwn i wrth fy modd yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe i wneud swydd ôl-ddoethurol. A bob blwyddyn, rwy’n trio fy ngorau i ddod i Abertawe ar fy ngwyliau hefyd!

Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy am ein PhD Iechyd Y Cyhoedd.