Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Offer hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Offer hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  5. MSc Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol
  • In this section
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
      • Gweinyddu Busnes, MBA
      • MSc Cyfrifeg a Chyllid
      • MSc Cyllid a Dadansoddi Data Mawr
      • MSc Rheolaeth Ariannol
      • MSc Cyllid
      • MSc Bancio a Chyllid Rhyngwladol
      • MSc Rheoli Buddsoddiadau
      • MSc Cyfrifeg Strategol
      • MSc Economeg
      • MSc Economeg a Chyllid
      • MSc Rheolaeth
      • MSc Rheolaeth (Dadansoddeg Busnes)
      • MSc Rheolaeth (E-Fusnes)
      • MSc Rheolaeth (Entrepreneuriaeth)
      • MSc Rheolaeth (Cyllid)
      • MSc Rheolaeth (Rheoli Adnoddau Dynol)
      • MSc Rheolaeth (Rheoli Rhyngwladol)
      • MSc Rheolaeth (Marchnata)
      • MSc Rheolaeth (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi)
      • MSc Marchnata Strategol
      • MSc Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan!
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
  • Astudio
      • Croeso i Abertawe
        Engineering Central in the sun

        Eich drws i ddyfodol disglair

        Astudio yn Abertawe
      • Israddedig
        • Cyrsiau
        • Llety
        • Diwrnodau Agored
        • Sut i wneud cais
        • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
        • Rhieni a Gwarcheidwaid
        • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
        • Clirio ym Abertawe
      • Ôl-raddedig
        • Cyrsiau
        • Rhaglenni Ymchwil
        • Diwrnod Agored
        • Sut i Wneud Cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Y Brifysgol
        • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Bywyd Myfyriwr
        • Astudio
        • Pam Abertawe
        • Bywyd y campws
        • Chwaraeon
        • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
        • Sefydliad Diwylliannol
        • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
        • Diwrnod Agored Rhithwir
        • Beth yw Pythefnos y Glas?
      • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
        • Llyfrgelloedd ac Archifau
        • BywydCampws
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Menter Myfyrwyr
        • Canolfan Llwyddiant Academaidd
        • Academi Hywel Teifi
        • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
      • Swyddfa'r Wasg
        Female student working with steel

        Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

        Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
      • Y Brifysgol
        • Amdanom ni
        • Sut i ddod o hyd i ni
        • Gwobrau ac Anrhydeddau
        • Hanes a threftadaeth
        • Swyddfa'r Wasg
        • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
        • Cynaliadwyedd
        • Teithio i’r campws ac oddi yno
        • Cysylltu â ni
      • Chwaraeon
        • Cyfleusterau Chwaraeon
        • Iechyd a Ffitrwydd
        • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
        • Chwaraeon i fyfyrwyr
        • Rhaglenni a Digwyddiadau
      • Bywyd y campws
        • Lleoedd Bwyta
        • Sefydliad Diwylliannol
        • Y Neuadd Fawr
        • Taliesin
        • Creu Taliesin
        • Ein Tiroedd
        • Chwaraeon
      • Colegau Academaidd
        • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
        • Coleg Peirianneg
        • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
        • Ysgol y Gyfraith
        • Yr Ysgol Reolaeth
        • Ysgol Feddygaeth
        • Y Coleg Gwyddoniaeth
        • Y Coleg
      • Academïau
        • Academi Iechyd a Llesiant
        • Academi Morgan
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
        • Academi Hywel Teifi
        • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
  5. MSc Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol

Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol, MSc

Ymgeisio
Diwrnod Agored
Gofynnwch gwestiwn i ni

Ymgymryd ag achosion bywyd go iawn sy ' n dod â chyrchfannau ' n fyw

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U./U.E.
  • Rhyngwladol
MSc 1 Blynedd Llawn Amser
    • Dull Astudio Ar y Campws
    • Dyddiad Dechrau Medi
    • Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall) 2.1
    • Lleoliad Campws y Bae
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 10,900
MSc 1 Blynedd Llawn Amser
    • Dull Astudio Ar y Campws
    • Dyddiad Dechrau Medi
    • Cynnig Nodweddiadol 2.1 - Gwybodaeth Rhagor
    • Lleoliad Campws y Bae
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 18,500

Trosolwg o'r Cwrs

Oes diddordeb gyda chi mewn gyrfa ym maes twristiaeth a fydd yn rhoi'r cyfle i chi greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb?

Os hoffech chi ddatblygu gwybodaeth a sgiliau uwch er mwyn gwneud penderfyniadau a fydd yn dylanwadu ar ddyfodol y diwydiant twristaidd yn lleol ac yn rhyngwladol, bydd ein MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn ddelfrydol i chi.

Mae'r sector teithio a thwristiaeth yn parhau i dyfu'n gyflymach na'r economi'n gyffredinol. Yn ogystal â'r buddion ariannol mae'n eu cynnig, gall twristiaeth hefyd gyfrannu at welliannau amgylcheddol ac ansawdd gwell o fywyd. Ar yr un pryd, mae twristiaeth yn gynyddol gysylltiedig ag amrywiaeth o heriau economaidd, cymdeithasol-ddiwydiannol ac amgylcheddol.

Mae MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol Prifysgol Abertawe wedi'i seilio ar egwyddorion sylfaenol Nodau Datblygu Cynaliadwy’r  Cenhedloedd Unedig, a bydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth y mae eu hangen i werthuso dyfodol y diwydiant twristaidd yn feirniadol, boed yn y DU neu dramor. Wrth gyfuno cysyniadau o feysydd busnes, rheolaeth a'r gwyddorau cymdeithasol, a chan dynnu ar enghreifftiau o bedwar ban byd, byddwch yn gadael gyda pharatoad cadarn ar gyfer ffurfiau mwy cyfrifol o dwristiaeth ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang.

Byddwch hefyd yn cael profiad o gyrchfannau lleol a thramor drwy amrywiaeth o deithiau maes, wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddeall cymhlethdodau a gofynion rheoli cyrchfan neu fenter twristiaeth. Am ragor o wybodaeth am y teithiau maes hyn a'r costau sy'n gysylltiedig â nhw, gweler yr ehangwyr 'Taith Maes' a 'Costau Ychwanegol' isod.

Pam Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol yn Abertawe?

  • Adran â chysylltiadau cryf â diwydiant, yn lleol ac yn fyd-eang, gan roi'r cyfle i chi werthuso dyfodol y sector twristiaeth
  • Addysgir y rhaglen gan academyddion arbenigol sy'n gwneud ymchwil arloesol yn y diwydiant twristiaeth.
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn teithiau astudio, yn y DU ac yn rhyngwladol, i roi damcaniaeth ar waith
  • Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, ymarferol a throsglwyddadwy allweddol a fydd yn eich paratoi am yrfa mewn amrywiaeth o leoliadau twristiaeth
  • Ar agor i ymgeiswyr gyda chefndiroedd mewn pynciau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, busnes a'r gwyddorau cymdeithasol
  • Pleidleisiwyd Prifysgol Abertawe yn ail ar gyfer astudio Ôl-raddedig yng Ngwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni? 2019

Eich Profiad Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol

Dyddiad dechrau: Medi 2020

O'r funud rydych yn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i feithrin eich sgiliau a'ch profiad er mwyn cyfoethogi'ch cyfleoedd gyrfa.

Cewch gyngor pwrpasol, un i un, diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Cewch gyfle i wneud lleoliad gwaith neu interniaeth drwy Rwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe (SPIN) neu'r fenter Wythnos o Waith.

Bydd ein holl fyfyrwyr yn elwa o'r ffaith bod nifer o gwmnïau wedi'u lleoli ar Gampws y Bae arloesol. Cewch gyfle i weithio ochr yn ochr â chwmnïau megis Fujitsu, mewn cyfleusterau sy'n cynnig ardaloedd addysgu ac astudio a chyfleusterau TG helaeth, gan gynnwys y caledwedd a'r meddalwedd arbenigol diweddaraf.

Cyfleoedd Cyflogaeth Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol

Mae gennym hanes ardderchog wrth helpu ein myfyrwyr i gael swyddi gwerthfawr mewn sefydliadau o bob maint, o fusnesau bach i gorfforaethau mawr, yn lleol ac yn fyd-eang.

P'un ai'ch bod chi'n dymuno gweithio i Merlin Entertainment, TUI Group, Hilton Worldwide neu Marriott International, bydd y radd hon yn eich gwneud chi'n ymgeisydd cryf ar gyfer pob darpar gyflogwr.

Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Cyfarwyddwr Twristiaeth
  • Marchnatwr Cyrchfan
  • Rheolwr Digwyddiadau neu Lety
  • Ymchwilydd neu Ymgynghorydd Twristiaeth

 

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws ol-raddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Modiwlau

Mae MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol Prifysgol Abertawe bydd yn eich arfogi â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth y mae eu hangen i werthuso dyfodol y diwydiant twristaidd yn feirniadol, boed yn y DU neu dramor.

Blwyddyn 1 (Lefel 7 PGT)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert

Mae myfyrwyr yn dewis 180 o gredydau o'r opsiynau canlynol:

Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
MN-M053Semester 1 (Sep-Jan Taught)15International Tourism Business
MN-M054Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Marketing Tourism Experiences
MN-M055Semester 1 (Sep-Jan Taught)15Tourism Planning and Policy
MN-M056Semester 1 (Sep-Jan Taught)15The Global Context of Tourism
MN-M582Semester 2 (Jan-Jun Taught)15Tourism Study Tour
MN-M590Semester 2 (Jan-Jun Taught)15Research Methods for Tourism
MN-M591Semester 2 (Jan-Jun Taught)15Critical Tourism Theory
MN-M593Semester 2 (Jan-Jun Taught)15Digital Tourism
Modiwlau Opsiynol
Compulsory Choice 

Dewiswch Yn union 60 o gredydau o'r Modiwlau a ganlyn:

NODER :Students MUST choose ONE of the following compulsory modules:

Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r ModiwlCanllawiau
MN-D017Semester 3 (Summer Taught)60Tourism Dissertation
MN-D018Semester 3 (Summer Taught)60Tourism Work Placement

Gofynion Mynediad

Rhaid i fyfyrwyr  ennill gradd israddedig 2:1 (neu radd gyfatebol o dramor) neu radd israddedig mewn twristiaeth (e.e. rheoli twristiaeth, teithio a thwristiaeth, astudiaethau hamdden), y gwyddorau cymdeithasol (e.e. daearyddiaeth) neu bwnc sy'n gysylltiedig â busnes (e.e. rheoli busnes, astudiaethau busnes, marchnata, entrepreneuriaeth, economeg).

Rydym yn ystyried pob cais yn unol â’i deilyngdod ac yn edrych ar bob cais unigol cyn cyflwyno cynnig, felly dylai myfyrwyr sydd ychydig yn brin ar y meini prawf uchod barhau i ymgeisio i’r Ysgol Reolaeth.

Rhaid i fyfyrwyr nad ydynt yn siaradwyr brodorol y Saesneg gael sgôr IELTS gyffredinol o 6.5 heb lai na 5.5 ym mhob elfen. Ceir rhestr o'r profion cyfatebol yma. Os ydych wedi astudio cwrs gradd a addysgwyd drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch gael eich eithrio o'r gofyniad hwn – cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Mae'r Ysgol Reolaeth  yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, drwy ddarlithoedd a seminarau wythnosol yn bennaf. 

O ddechrau'ch gradd, cewch eich ymdrochi yn ein hymchwil arloesol a'n haddysgu sy'n cael eu harwain gan ddiwydiant, a chewch bob cyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol, gan gyflawni'r deilliannau dysgu a nodir ym maes llafur y modiwl.

Darpariaeth Gymraeg

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, mae ein hacademi bwrpasol, Academi Hywel Teifi, yma i’ch cefnogi gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Cyfweliad cyfrwng Cymraeg wrth wneud cais am le ar gwrs.
  • Dewis i gael gohebiaeth bersonol yn y Gymraeg – byddwn yn cyfathrebu yn eich dewis iaith.
  • Dewis i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs, a gwneud eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os mai Saesneg yw iaith eich astudiaethau) a gwneir pob ymdrech i’w farcio yn yr iaith wreiddiol.
  • Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg.
  • Cymorth un-i-un i wella’ch sgiliau Cymraeg academaidd.

Ers 2011, mae cynnydd o 40% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ôl ein data *TEF o’r ddwy flynedd ddiwethaf mae myfrywyr Cymraeg eu hiaith yn llwyddiannus iawn o safbwynt cyflogadwyedd (*canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018).

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm o academyddion profiadol o gefndiroedd ymchwil, academaidd a phroffesiynol. Mae eu gwybodaeth a'u harbenigedd helaeth yn berthnasol iawn i gynnwys y modiwl sy'n cael ei addysgu, gan sicrhau eich bod yn dysgu'r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf perthnasol a'ch bod yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau proffesiynol a'r arbenigedd angenrheidiol i lansio'ch gyrfa ym maes rheoli.

Cewch fwy o wybodaeth am ein staff academaidd drwy ddarllen ein proffiliau staff.

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
MSc Llawn Amser £ 10,900 £ 18,500

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Mae'r Ysgol Reolaeth hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Datblygu Dyfodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig (a addysgir) sydd wedi derbyn cynnig i astudio yn yr Ysgol Reolaeth. Mae'r ysgoloriaeth yn talu £3,000 am un flwyddyn academaidd a chaiff y swm hwn ei  ddidynnu'n awtomatig o'ch ffioedd dysgu.

Mae'r ysgoloriaeth yn annog myfyrwyr i ddatblygu nifer o sgiliau proffesiynol wrth iddynt weithio gyda'r Ysgol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Costau Ychwanegol

Gallwch wynebu costau ychwanegol yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • Parcio yn y cae hamdden a theithio i'r campws ac oddi yno
  • Argraffu, llungopïo, costau deunyddiau a chyfarpar ysgrifennu (e.e. cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Argraffu a rhwymo
  • Gŵn ar gyfer seremonïau graddio

Modiwl Taith Astudio

Mae hwn yn fodiwl gorfodol ar gyfer MSc Rheoli Twristiaeth Ryngwladol.  Sylwer bod cost ychwanegol ar gyfer y modiwl hwn - bydd y gost yn amrywio gan ddibynnu ar y cyrchfan ond, fel arfer, bydd rhwng £500 a £1,000.

Os na fydd myfyriwr yn gallu mynd ar y daith maes oherwydd rhesymau ariannol, personol neu symudedd, bydd yr Ysgol yn gwneud addasiadau rhesymol a/neu’n datblygu trefniadau amgen ar y cyd â’r myfyriwr. Darperir mathau asesu eraill mewn lleoliad mwy hygyrch os yw’n briodol. Bydd proses amgylchiadau esgusodol y Brifysgol yn pennu pwy sy’n gymwys am drefniadau amgen o’r fath a bydd angen cyflwyno dogfennau i gefnogi’r trefniadau y gwnaed cais amdanynt. Dylid dechrau’r broses hon cyn gynted ag y bo modd – cyn dechrau’r modiwl fan hwyraf.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Mae gan yr Ysgol Reolaeth hefyd dîm Cyflogadwyedd mewnol dynodedig sy’n cynnig cymorth ychwanegol.
Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych gyfle i:

  • Ymuno â'n cynllun Mentora Cyflogadwyedd a chael eich mentora gan gyflogwr a all eich helpu i bontio o fod yn fyfyriwr i fod yn weithiwr proffesiynol.
  • Siarad â’n cymuned gynyddol o gyn-fyfyrwyr.
  • Gweithio a rhwydweithio â chyflogwyr o amrywiaeth o gwmnïau cenedlaethol ac amlwladol drwy ein seminarau a'n digwyddiadau.
  • Gwella eich sgiliau a chwrdd â chyflogwyr yn ystod ein Modiwl Cyflogadwyedd, a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.
  • Cael cymorth o ran cyfleoedd i weithio am flwyddyn mewn diwydiant neu astudio dramor.
  • Cymryd rhan yn ein cystadleuaeth 'Business in the Bay' a chystadlu yn erbyn myfyrwyr prifysgolion eraill.
  • Cwblhau Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe.

Darganfod sut y gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd mewnol eich cefnogi.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut i wneud cais

Dylech wneud cais drwy system ymgeisio fewnol y Brifysgol.

I gael rhagor o gyngor, ewch i’n tudalennau sut i wneud cais ar gyfer astudio ôl-radd.

Teithiau Maes

Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio mewn amrywiaeth o gyrchfannau twristiaid. Mae ymweliadau yn y gorffennol wedi cynnwys Wisgi Penderyn, sef distyllfa wisgi o safon, stadiwm rygbi'r  Scarlets a thaith i Nepal. Caiff teithiau maes eu cynllunio i'ch helpu i ddeall cymhlethdodau rheoli cyrchfan twristiaeth.

Yn 2019, ymwelodd ein myfyrwyr â Nepal. Nod penodol y daith oedd ystyried datblygiad cymunedol drwy dwristiaeth ac roedd yn cynnwys ymweliadau â Kathmandu, Annapurna ac ardaloedd gwledig eraill sy'n dechrau archwilio'r manteision y gall twristiaeth eu cynnig i'w twf economaidd.

Ymweliad â Nepal 2019:

group of students in Nepal

Modiwl Taith Astudio

Mae hwn yn fodiwl gorfodol ar gyfer MSc Rheoli Twristiaeth Ryngwladol.  Sylwer bod cost ychwanegol ar gyfer y modiwl hwn - bydd y gost yn amrywio gan ddibynnu ar y cyrchfan ond, fel arfer, bydd rhwng £500 a £1,000.

Os na fydd myfyriwr yn gallu mynd ar y daith maes oherwydd rhesymau ariannol, personol neu symudedd, bydd yr Ysgol yn gwneud addasiadau rhesymol a/neu’n datblygu trefniadau amgen ar y cyd â’r myfyriwr. Darperir mathau asesu eraill mewn lleoliad mwy hygyrch os yw’n briodol. Bydd proses amgylchiadau esgusodol y Brifysgol yn pennu pwy sy’n gymwys am drefniadau amgen o’r fath a bydd angen cyflwyno dogfennau i gefnogi’r trefniadau y gwnaed cais amdanynt. Dylid dechrau’r broses hon cyn gynted ag y bo modd – cyn dechrau’r modiwl fan hwyraf.

  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
      • Gweinyddu Busnes, MBA
      • MSc Cyfrifeg a Chyllid
      • MSc Cyllid a Dadansoddi Data Mawr
      • MSc Rheolaeth Ariannol
      • MSc Cyllid
      • MSc Bancio a Chyllid Rhyngwladol
      • MSc Rheoli Buddsoddiadau
      • MSc Cyfrifeg Strategol
      • MSc Economeg
      • MSc Economeg a Chyllid
      • MSc Rheolaeth
      • MSc Rheolaeth (Dadansoddeg Busnes)
      • MSc Rheolaeth (E-Fusnes)
      • MSc Rheolaeth (Entrepreneuriaeth)
      • MSc Rheolaeth (Cyllid)
      • MSc Rheolaeth (Rheoli Adnoddau Dynol)
      • MSc Rheolaeth (Rheoli Rhyngwladol)
      • MSc Rheolaeth (Marchnata)
      • MSc Rheolaeth (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi)
      • MSc Marchnata Strategol
      • MSc Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan!
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio Diwrnod Agored
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342
  • Facebook link
  • Instagram link
  • Twitter link
  • youtube link
  • flickr link
  • linkedin link