Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi'n ymarferydd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymgymryd â dysgu yn y gwaith, mae ein gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch yn ffordd ardderchog i chi ennill credyd academaidd ffurfiol ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.
Mae'r cwrs yn rhaglen hyblyg a modwlaidd dan arweiniad eich anghenion fel myfyriwr ac fel gweithiwr proffesiynol prysur. Byddwch yn ymdrin â phynciau allweddol sy'n ymwneud â pholisi ac ymarfer ac yn mireinio ymchwil beirniadol a sgiliau dadansoddi mewn perthynas â iechyd a gofal cymdeithasol.
Gyda chymorth mentor academaidd, byddwch hefyd yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.