Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Offer hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Offer hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg
  • In this section
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • MA Diwylliant yr Hen Aifft
      • MA Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol
      • MA Hen Lenyddiaeth Naratif
      • MA Cyfieithu Tsieinëeg-Saesneg ac Addysgu Iaith
      • MA yn y Clasuron
      • MA Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
      • MA Ysgrifennu Creadigol
      • MA Datblygu a Hawliau Dynol
      • MA Cyfryngau Digidol
      • MA Hanes Modern Cynnar
      • MA mewn Addysg
      • MA Llenyddiaeth Saesneg
      • MA Erasmus Mundus Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Globaleiddio
      • MA Hanes
      • MA Newyddiaduraeth Ryngwladol
      • MA Cysylltiadau Rhyngwladol
      • MA Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol
      • MA Astudiaethau Canoloesol
      • MA Hanes Modern
      • MA Gwleidyddiaeth
      • MA Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)
      • MA Cyfieithu Proffesiynol
      • MA Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth
      • MA Polisi Cyhoeddus
      • MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
      • MA Cyfieithu a Dehongli (Estynedig)
      • MA Cyfieithu a Dehongli
      • MA Rhyfel a Chymdeithas
      • MA Ysgrifennu Cymreig yn yr iaith Saesneg
      • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Technoleg Cyfieithu
      • MA Ysgrifennu Creadigol (Estynedig)
      • MA Hanes a Threftadaeth Gyhoeddus (Estynedig)
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: ITM - Ffrangeg, Sbaeneg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan!
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
  • Astudio
      • Croeso i Abertawe
        Engineering Central in the sun

        Eich drws i ddyfodol disglair

        Astudio yn Abertawe
      • Israddedig
        • Cyrsiau
        • Llety
        • Diwrnodau Agored
        • Sut i wneud cais
        • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
        • Rhieni a Gwarcheidwaid
        • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
        • Clirio ym Abertawe
      • Ôl-raddedig
        • Cyrsiau
        • Rhaglenni Ymchwil
        • Diwrnod Agored
        • Sut i Wneud Cais
        • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
        • Y Brifysgol
        • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Bywyd Myfyriwr
        • Astudio
        • Pam Abertawe
        • Bywyd y campws
        • Chwaraeon
        • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
        • Sefydliad Diwylliannol
        • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
        • Diwrnod Agored Rhithwir
        • Beth yw Pythefnos y Glas?
      • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
        • Llyfrgelloedd ac Archifau
        • BywydCampws
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
        • Menter Myfyrwyr
        • Canolfan Llwyddiant Academaidd
        • Academi Hywel Teifi
        • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
      • Swyddfa'r Wasg
        Female student working with steel

        Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

        Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
      • Y Brifysgol
        • Amdanom ni
        • Sut i ddod o hyd i ni
        • Gwobrau ac Anrhydeddau
        • Hanes a threftadaeth
        • Swyddfa'r Wasg
        • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
        • Cynaliadwyedd
        • Teithio i’r campws ac oddi yno
        • Cysylltu â ni
      • Chwaraeon
        • Cyfleusterau Chwaraeon
        • Iechyd a Ffitrwydd
        • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
        • Chwaraeon i fyfyrwyr
        • Rhaglenni a Digwyddiadau
      • Bywyd y campws
        • Lleoedd Bwyta
        • Sefydliad Diwylliannol
        • Y Neuadd Fawr
        • Taliesin
        • Creu Taliesin
        • Ein Tiroedd
        • Chwaraeon
      • Colegau Academaidd
        • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
        • Coleg Peirianneg
        • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
        • Ysgol y Gyfraith
        • Yr Ysgol Reolaeth
        • Ysgol Feddygaeth
        • Y Coleg Gwyddoniaeth
        • Y Coleg
      • Academïau
        • Academi Iechyd a Llesiant
        • Academi Morgan
        • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
        • Academi Hywel Teifi
        • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
  5. TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg

TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg, PGCert

Ymgeisio
Diwrnod Agored
Gofynnwch gwestiwn i ni

Creu Athrawon Yfory

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U./U.E.
PGCert 1 Blynedd Llawn Amser
    • Dull Astudio Dysgu Cyfunol
    • Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall) 2:2
    • Lleoliad Campws Parc Singleton
    • Ffioedd Dysgu Y Flwyddyn £ 9,000

Trosolwg o'r Cwrs

Croeso i Bartneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA), ffordd newydd i staff mewn ysgolion a'r brifysgol gydweithio i sicrhau bod gan 'Athrawon Yfory' y sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnynt i wneud gwahaniaeth i ddisgyblion yng Nghymru.

Mae galw mawr am athrawon Bioleg cymwysedig ar draws y DU. Mae PYPA wedi datblygu rhaglen TAR Bioleg Uwchradd arloesol a fydd yn rhoi hyder i'r rhai sy'n dechrau yn y proffesiwn dysgu ddeall eu pwnc yn well ac yn eu dealltwriaeth o sut i'w addysgu. Bydd y rhaglen hon yn eich paratoi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r cymunedau dysgu y byddwch yn ymuno â nhw. Caiff rhaglen TAR Bioleg Uwchradd PYPA ei hategu gan ymchwil rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Byddwch yn dysgu sut i wneud Bioleg yn ystyrlon, yn ddiddorol ac yn hwyl a hefyd sut i ddadansoddi eich datblygiad eich hun a datblygiad eich disgyblion.

Bydd rhaglen TAR integredig a thrylwyr PYPA yn eich herio'n academaidd ac yn broffesiynol. Nod y rhaglen Bioleg TAR yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o natur Bioleg a'i lleoliad yng nghwricwlwm yr ysgol. Byddwch yn cael eich annog i ymchwilio a phrofi eich ymagweddau eich hun i addysgeg Bioleg i ganfod y dulliau hynny sy'n gweithio orau i chi a'r disgyblion rydych yn eu haddysgu. Mae PYPA yn ymroddedig i ddatblygu ymarferwyr myfyriol sy'n cael eu cyfeirio gan ymchwil sy'n gallu dangos creadigrwydd a hyblygrwydd yn eu haddysgu fel bod dysgwyr yn datblygu eu cymhwyster pwnc mewn amgylchedd sy'n ysgogi mwynhad.

PAM TYSTYSGRIF ÔL-RADDEDIG MEWN ADDYSG YN ABERTAWE?

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe'n defnyddio arbenigedd academaidd sylweddol y Brifysgol mewn Bioleg. Bydd PYPA yn darparu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) a arweinir gan ymchwil ac ymarferwyr o safon yn seiliedig ar yr egwyddor o ddysgu integredig (Hagger a Mutton, 2015). Datblygwyd pob agwedd ar y cwrs ar y cyd a byddant yn cael eu cyflwyno, eu sicrhau am ansawdd a'u hadolygu fel partneriaeth i atgyfnerthu'r cydweithio drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) yn cyflwyno rhaglen ymchwil ac ymarfer integredig o safon, yn seiliedig ar ei gweledigaeth o ddatblygu ymarferwyr myfyriol sy'n cael eu hysbysu gan ymchwil sy'n gallu cyfrannu'n sylweddol at ansawdd addysg yng Nghymru.

EICH PROFIAD TAR

Mae rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon PYPA wedi'i strwythuro i alluogi nifer o gyfleoedd i fynd i'r afael â'r holl Safonau Proffesiynol ar gyfer Dysgu ac Addysgu drwy brofiadau dysgu cyfoethog sy'n atgyfnerthu, yn gwerthuso ac yn cefnogi gallu proffesiynol.

CYFLEOEDD CYFLOGAETH TAR

Bydd cwblhau TAR PYPA yn llwyddiannus yn arwain at argymhelliad i Gyngor Gweithlu Addysg ar gyfer Statws Athro Cymwys ac mae'n gyfle i gael cyflogaeth fel Athro Newydd Gymhwyso mewn ysgolion.

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws ol-raddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Modiwlau

Mae rhaglen AGA PYPA yn cynnwys dau fodiwl:

Mae Ymarfer Myfyriol a arweinir gan ymchwil (EDPM30) yn seiliedig yn bennaf yn y brifysgol a bydd yn cynnwys y canlynol:

  • Astudiaethau Craidd: yn canolbwyntio ar y materion trosgynnol sy'n arwain polisïau yng nghyd-destun diwylliannol Cymru
  • Astudiaethau Pwnc: yn canolbwyntio ar yr addysgeg yn eich maes pwnc, cynllunio gwersi, deall lleoliad eich pwnc yn y Meysydd Dysgu a Phrofiad
  • Gwella Gwybodaeth Pwnc: yn canolbwyntio ar adolygu gofynion y cwricwlwm yn eich maes pwnc a'ch paratoi ar gyfer y pynciau y gallech fod yn eu haddysgu
  • Astudiaethau Proffesiynol ac Addysgeg: yn canolbwyntio ar y goblygiadau ar gyfer eich maes pwnc o ran materion ysgol gyfan megis darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, gwahaniaethu ac asesu.
  • Dulliau ymchwil mewn addysg: yn canolbwyntio ar fethodolegau ymchwil sy'n addas at ddibenion addysgol a'ch paratoi chi ar gyfer eich prosiect ymchwil sy'n seiliedig ar ymarfer.
  • Mae EDPM30 yn 60 credyd lefel 7. Gall myfyrwyr sy'n cwblhau 60 o gredydau ar Lefel 7 drosglwyddo'r credydau i'n MA Addysg

Nod Ymarfer Proffesiynol (EDP300) yw sicrhau bod yr holl athrawon dan hyfforddiant yn datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yn cysylltu â Phedwar Diben y Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r modiwl hwn yn arwain at argymell Statws Athro Cymwysedig. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn treulio o leiaf 120 o ddiwrnodau yn gwneud Ymarfer Proffesiynol mewn dwy ysgol yn y rhwydwaith lle maent wedi'u lleoli, a chânt ragor o gyfleoedd mewn amrywiaeth o leoliadau ategol. Mae EDP300 yn cyfuno ymchwil ag ymarfer ystafell ddosbarth drwy gwrs Ymarfer a Damcaniaeth a gyflwynir ar y cyd gan Diwtoriaid Pwnc ac athrawon arbenigol yn ysgolion y rhwydwaith. Bydd Mentoriaid Pwnc a Thiwtoriaid Pwnc yn rhoi cymorth unigol cryf i athrawon dan hyfforddiant sy'n gweithio at gyflawni’r Safon Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.

 

Blwyddyn 1 (Lefel 7 PGT)

FHEQ 7 Taught Masters / PGDip / PGCert
Modiwlau Gorfodol
Cod y ModiwlSemesterCredydauEnw'r Modiwl
EDP300Semester 1 and Semester 2 (Sep-Jun Taught)60Professional Practice
EDPM30Semester 1 and Semester 2 (Sep-Jun Taught)60Research Informed Reflective practice

Gofynion Mynediad

Rhaid i ymgeiswyr y TAR Uwchradd gyflawni'r canlynol cyn cael eu derbyn i'r rhaglen:

  • Gradd anrhydedd gydag o leiaf 2:2 mewn pwnc perthnasol, neu bwnc cysylltiedig gydag o leiaf 50% o gynnwys pwnc perthnasol;
  • Gradd B TGAU mewn Iaith Gymraeg/Saesneg (bydd rhaid i fyfyrwyr sy'n cyflwyno cais ar gyfer y rhaglen Gymraeg feddu ar TGAU mewn Cymraeg);
  • Gradd B TGAU mewn Mathemateg

Mae’r Gradd B yn yr Iaith Saesneg/ Gymraeg a Mathemateg ar lefel TGAU yn ofyniad a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, croesawn geisiadau gan y rhai hynny sydd â Gradd C yn yr Iaith Saesneg/Gymraeg a/neu Fathemateg ar lefel TGAU. Efallai bydd ymgeiswyr â gradd C TGAU mewn Iaith Gymraeg/Saesneg neu Fathemateg sy'n bodloni'r holl feini prawf mynediad eraill yn cael eu derbyn os byddant yn cwblhau'r prawf cyfwerthedd yn llwyddiannus.

Bydd rhaid i'r holl ymgeiswyr TAR ddod i gyfweliad wyneb yn wyneb yn un o’n hysgolion partner, gydag aelodau o staff addysgu PYPA. Cynhelir cyfweliadau yn Gymraeg neu yn  Saesneg yn ôl y dymuniad. Bydd yr holl ddarpar athrawon dan hyfforddiant yn cymryd rhan yn yr un broses gyfweld, gyda darpariaeth ar gyfer ffocws pwnc. Bydd hyn yn cynnwys gweithgaredd grŵp gyda'r panel cyfweld yn arsylwi arno, ac yna gyflwyniad byr a thrafodaeth broffesiynol.

Bydd rhaid i ymgeiswyr gwblhau Prawf Mynediad Sgiliau Proffesiynol mewn llythrennedd a rhifedd fel rhan o'r broses gyfweld.  Bydd yr holl fyfyrwyr TAR yn cwblhau archwiliad Cymhwysedd Digidol wrth gofrestru a bydd hyfforddiant cymhwysedd digidol yn rhan o'u rhaglen astudio TAR.

Rhaid i'r holl ymgeiswyr fodloni gofynion Safonau Iechyd Addysg (Cymru) gan gadarnhau eu gallu corfforol ac iechyd er mwyn addysgu.

Bydd yn rhaid i'r holl ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y GDG. Ni ddylai ymgeiswyr fod wedi cael eu heithrio rhag addysgu neu weithio gyda phlant nac wedi'u cofrestru gyda'r GDG fel person sy'n anaddas i weithio gyda phlant neu bobl ifanc..

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Bydd eich astudiaethau'n cynnwys sesiynau a addysgir yn y brifysgol, lleoliadau mewn ysgolion, diwrnodau profiad amgen ac wythnos ar leoliad arsylwi estynedig mewn un o'r lleoliadau amgen a brofwyd. Bydd lleoliadau amgen yn cynnwys: Cyfleusterau Addysgu Arbenigol, Unedau Cyfeirio Disgyblion, cyfnodau oedran eraill a lleoliadau diwylliannol/ieithyddol eraill.

Bydd cyfran yr addysgu y byddwch yn ymgymryd â hi'n cynyddu fesul cam yn ystod y flwyddyn felly bydd eich llwyth gwaith yn cynyddu o 30% ar amserlen addysgu lawn yn eich lleoliad cyntaf i 75% ar amserlen addysgu lawn ar ddiwedd eich cwrs.

Darpariaeth Gymraeg

Os ydych chi’n siarad Cymraeg, mae ein hacademi bwrpasol, Academi Hywel Teifi, yma i’ch cefnogi gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Rydym yn cynnig:

  • Cyfweliad cyfrwng Cymraeg wrth wneud cais am le ar gwrs.
  • Dewis i gael gohebiaeth bersonol yn y Gymraeg – byddwn yn cyfathrebu yn eich dewis iaith.
  • Dewis i ysgrifennu a chyflwyno eich gwaith cwrs, a gwneud eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os mai Saesneg yw iaith eich astudiaethau) a gwneir pob ymdrech i’w farcio yn yr iaith wreiddiol.
  • Tiwtor personol sy’n siarad Cymraeg.
  • Cymorth un-i-un i wella’ch sgiliau Cymraeg academaidd.

Ers 2011, mae cynnydd o 40% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ôl ein data *TEF o’r ddwy flynedd ddiwethaf mae myfrywyr Cymraeg eu hiaith yn llwyddiannus iawn o safbwynt cyflogadwyedd (*canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018).

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Dr Neil Lucas, Pennaeth Partneriaethau Ysgol, Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe

Dr Helen Lewis - Cyfarwyddwr y Rhaglen AGA

 

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
PGCert Llawn Amser £ 9,000

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Mae'r cymhellion presennol ar gyfer athrawon dan hyfforddiant TAR yn ddeniadol iawn, yn enwedig ar gyfer pynciau lle ceir prinder. Cyfeiriwch at: Cymhellion Hyfforddiant Athrawon

Gall athrawon dan hyfforddiant TAR sy'n byw yng Nghymru hefyd fod yn gymwys am y pecyn cymorth i fyfyrwyr safonol, sy'n cynnwys benthyciad ar gyfer ffioedd dysgu a phecyn cymorth ar gyfer costau byw ('cynhaliaeth'). Bydd cyfanswm y pecyn cynhaliaeth gyfwerth â'r Cyflog Byw Go Iawn wrth astudio, sy'n gymysgedd o grantiau a benthyciadau, gan ddibynnu ar incwm yr aelwyd: Cyllid Myfyrwyr Cymru Cyllid TAR

Costau Ychwanegol

Gallwch wynebu costau ychwanegol yn ystod eich amser yn y Brifysgol, gan gynnwys y canlynol (ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr):

  • Parcio yn y cae hamdden a theithio i'r campws ac oddi yno
  • Argraffu, llungopïo, costau deunyddiau a chyfarpar ysgrifennu (e.e. cof bach)
  • Prynu llyfrau neu destunau
  • Argraffu a rhwymo
  • Gŵn ar gyfer seremonïau graddio
  • Teithio i ysgolion ac oddi yno
  • Os cewch gynnig lle, bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arnoch, neu wiriad cyfwerth a gymeradwywyd. Gweler ein tudalen Arweiniad ar Gyflwyno Cais am DBS i gael rhagor o fanylion.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni a'n nod yw sicrhau eich bod yn ennill y dosbarth gradd gorau. Mae gennym system mentora personol lle y dyrennir mentor academaidd i chi. Mae gennym hefyd bolisi "drws agored" lle mae ein hathrawon academaidd ar gael i siarad â chi ar unrhyw adeg am unrhyw ymholiadau neu bryderon academaidd a allai fod gennych.

Sut i wneud cais

Gwneir ceisiadau am Addysg Gychwynnol i Athrawon drwy wefan UCAS

Asesiadau TAR

Ymchwil-gwybodus Ymarfer Myfyriol

Bydd asesiad ar gyfer EDPM30 yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos eu bod wedi datblygu lefel uchel o sgiliau meddwl yn feirniadol a fydd yn eu galluogi i integreiddio dysgu academaidd a phrofiadol.

Asesiad 1: Myfyrio beirniadol ar gynlluniau gwersi

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cyflwyno 4 cynllun gwersi penodol gyda ffocws penodol ar faterion ysgol cyffredinol (e.e. rheoli ymddygiad mewn gwers Fioleg), ynghyd â myfyrdod beirniadol 750 o eiriau ar effeithiolrwydd y gweithgareddau dysgu a gyflwynwyd. Dylai pob myfyrdod beirniadol ddangos fod ganddynt ddealltwriaeth glir o sut mae llenyddiaeth yn cyfeirio cynllunio ar gyfer deilliannau penodol yn eu pwnc a sut mae'r wers a ddewiswyd yn cymhwyso theori i ymarfer. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn amlinellu (i) y llenyddiaeth ymchwil sy'n cyfiawnhau eu dewis o weithgareddau dysgu a (ii) sut mae cynllun y wers yn ystyried fframweithiau statudol, (iii) ffactorau eraill a gyfrannodd at wella'r profiad dysgu i ddisgyblion (e.e. cynllun seddi, cymorth gan oedolion eraill).

Asesiad 2: Adroddiad ar brosiect ymchwil agos i ymarfer

Yn yr ail asesiad, bydd athrawon dan hyfforddiant yn gorfod nodi cwestiwn ymchwil sy'n gysylltiedig ag un o'r materion ysgol gyfan a astudiwyd. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn datblygu cynnig er enghraifft, prosiect ymchwil sy'n agos i ymarfer ar raddfa fach, a fydd yn gwella cyfranogiad disgyblion. Caiff y canfyddiadau eu cyflwyno fel adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys adolygiad llenyddiaeth, methodoleg, dadansoddi data a thrafod y canfyddiadau. Bydd yr adroddiad yn myfyrio'n feirniadol ar ymyriadau a strategaethau a roddwyd ar waith yn y prosiect. Bydd yr adroddiad agos i ymarfer yn 6,000 o eiriau.

Asesiad 3: Myfyrdod beirniadol ar reolaeth ystafell ddosbarth

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn nodi ardal o reolaeth ystafell ddosbarth yr hoffent ei gwella neu ei mireinio. Byddant yn cymryd fideo o'u hunain wrth addysgu dros gyfnod o wersi er mwyn arsylwi ar eu hymarfer addysgu eu hunain ac i fonitro cynnydd o ran yr ardal o reolaeth ystafell ddosbarth a nodwyd. Bydd athrawon dan hyfforddiant yn ymchwilio i ddulliau rheolaeth ystafell ddosbarth a'u cymhwyso mewn awyrgylch ystafell ddosbarth. Caiff y recordiad fideo ei gefnogi gan fyfyrdod beirniadol o'r strategaethau a ddefnyddir ganddynt. Bydd yr adroddiad terfynol yn 3,000 o eiriau.

EDP300 Ymarfer Proffesiynol

Bydd yr asesiad ar gyfer EDP300 yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i ddangos sut maent wedi cyflawni'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth a gallant gael eu hargymell ar gyfer gwobr SAC a gyflwynir gan y Cyngor Gweithlu Addysg. Bydd yn rhaid i athrawon dan hyfforddiant ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r 32 o ddisgfrifwyr SAC a nodir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth. Yn ystod eu hymarfer addysgu, bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o brofiadau mewn lleoliadau addysgol gwahanol sy'n ceisio sicrhau eu bod yn cael mwy nag un cyfle i gasglu tystiolaeth yn erbyn pob un o Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.

Bydd athrawon dan hyfforddiant yn defnyddio Pasbort Dysgu Proffesiynol y Cyngor Gweithlu Addysg i gofnodi tystiolaeth o gyflawni'r Safonau Proffesiynol. Byddant yn gallu lanlwytho tystiolaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys ffeiliau sain a fideo (gyda chaniatâd priodol) yn ogystal â chyflwyniadau ysgrifenedig traddodiadol (e.e. cynlluniau gwersi, cynlluniau gwaith, adnoddau dysgu ac addysgu, dyddiaduron myfyrio, adroddiadau ymchwil).

Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ysgrifennu 5 traethawd myfyriol byr hefyd (400 gair yr un) sy'n cyd-fynd â phenawdau'r Safonau Proffesiynol, sef: Addysgeg, Cydweithio, Dysgu Proffesiynol, Arloesedd ac Arweinyddiaeth, a thraethawd myfyrio hwy 1,000 o eiriau sy'n trafod perthynas y 5 llinyn â'r gwerthoedd a'r rheolaeth a nodwyd yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth.

Datblygu'r Iaith Gymraeg Yn Ystod Eich TAR

Bydd yr holl athrawon dan hyfforddiant y mae angen datblygu sgiliau Cymraeg arnynt yn ymgymryd â rhaglen 'Y Gymraeg i Oedolion mewn Addysg', sy'n galluogi'r holl athrawon dan hyfforddiant i ddatblygu gallu sylfaenol yn y Gymraeg pan fyddant yn graddio.

Bydd yr holl athrawon dan hyfforddiant yn treulio o leiaf ddiwrnod mewn ysgol Gymraeg fel rhan o'r rhaglen 'diwrnodau profiad'.

Bydd athrawon dan hyfforddiant sydd eisoes yn rhugl yn y Gymraeg yn dilyn rhaglen o weithgareddau i adeiladu ar sgiliau addysgeg athrawon dan hyfforddiant i addysgu'n ddwyieithog a gweithio yn Gymraeg, a fydd yn eu paratoi nhw i gyflwyno cais am Dystysgrif Hyfedredd Iaith i Athrawon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
      • MA Diwylliant yr Hen Aifft
      • MA Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol
      • MA Hen Lenyddiaeth Naratif
      • MA Cyfieithu Tsieinëeg-Saesneg ac Addysgu Iaith
      • MA yn y Clasuron
      • MA Cyfathrebu, Ymarfer y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
      • MA Ysgrifennu Creadigol
      • MA Datblygu a Hawliau Dynol
      • MA Cyfryngau Digidol
      • MA Hanes Modern Cynnar
      • MA mewn Addysg
      • MA Llenyddiaeth Saesneg
      • MA Erasmus Mundus Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Globaleiddio
      • MA Hanes
      • MA Newyddiaduraeth Ryngwladol
      • MA Cysylltiadau Rhyngwladol
      • MA Diogelwch a Datblygu Rhyngwladol
      • MA Astudiaethau Canoloesol
      • MA Hanes Modern
      • MA Gwleidyddiaeth
      • MA Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)
      • MA Cyfieithu Proffesiynol
      • MA Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth
      • MA Polisi Cyhoeddus
      • MA Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
      • MA Cyfieithu a Dehongli (Estynedig)
      • MA Cyfieithu a Dehongli
      • MA Rhyfel a Chymdeithas
      • MA Ysgrifennu Cymreig yn yr iaith Saesneg
      • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Technoleg Cyfieithu
      • MA Ysgrifennu Creadigol (Estynedig)
      • MA Hanes a Threftadaeth Gyhoeddus (Estynedig)
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Bioleg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cyfrifiadureg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Dylunio a Thechnoleg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Ffiseg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: ITM - Ffrangeg, Sbaeneg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Saesneg
      • TAR Uwchradd gyda SAC: Cymraeg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan!
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio Diwrnod Agored
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342
  • Facebook link
  • Instagram link
  • Twitter link
  • youtube link
  • flickr link
  • linkedin link