Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r MA yn Niwylliant yr Hen Aifft yn gwrs goleuedig sy’n canolbwyntio ar hanes, iaith a diwylliant materol yr Aifft.
Wedi’i addysgu gan ymchwilwyr rhyngwladol arbenigol, mae’r cwrs cynhwysfawr hwn yn cael budd o’n Canolfan Eifftaidd unigryw sy’n gartref i filoedd o arteffactau o’r Hen Aifft, y casgliad mwyaf o’i fath yng Nghymru.
Mae hyfforddiant iaith lefel uwch ar gael fel rhan o’r MA hwn ond nid yw’n orfodol. Gallech hefyd ganolbwyntio ar bynciau sy’n ymwneud â threftadaeth, amgueddfa, a dehongli diwylliant materol.