Mae gwneud cais am gwrs ôl-raddedig a addysgir yn Abertawe yn rhwydd - rydym wedi llunio canllaw defnyddiol i wneud eich taith ymgeisio mor hawdd â phosib.
Gwneud cais am gwrs Ôl-raddedig a addysgir
Sut ydw i’n gwneud cais?
Gallwch wneud cais am y mwyafrif o'n cyrsiau ôl-raddedig a addysgir gan ddefnyddio ein porth gwneud cais ar-lein. Ceir gweithdrefnau gwahanol ar gyfer y cyrsiau canlynol:
Ceir manylion llawn ar bob tudalen cwrs.
Pryd ddylwn i wneud cais?
Nid oes dyddiadau cau ffurfiol ar gyfer y mwyafrif o'n cyrsiau a derbynnir ceisiadau drwy gydol y flwyddyn. Argymhellwn eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted â phosib pan fyddwch yn hapus gyda'r rhaglen ôl-raddedig a ddewiswyd; wrth gyflwyno eich cais yn gynnar, mae'n fwy tebygol y bydd lle ar gael ar eich cwrs.
Mae manteision amlwg ynghlwm â gwneud cais yn gynnar o ganlyniad i alw mawr ar leoedd ar raglenni poblogaidd. Os ydych chi'n bwriadu gwneud cais am ariannu allanol, mae hefyd yn werth nodi fel arfer y bydd angen i chi feddu ar gynnig cadarn i astudio cyn i chi gael eich ystyried am ddyfarniad. Dylech wneud cais am eich dewis gwrs ymhell cyn y dyddiad cau ar gyfer unrhyw geisiadau ariannu. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am gyfleoedd ariannu ar ein tudalennau ariannu.
Mae rhai eithriadau:
Bydd gan rai o'n cyrsiau mwy poblogaidd ddyddiadau cau cynharach, a byddwn yn argymell yn fawr eich bod yn cyflwyno eich cais cyn gynted â phosib.
Os ydych chi'n ansicr o ran pryd i wneud cais am eich rhaglen ôl-raddedig a ddewiswyd, cysylltwch â'r ysgol neu'r adran academaidd berthnasol i ofyn am gyngor - ceir manylion cyswllt ar y dudalen cwrs berthnasol.
A oes angen i mi ddarparu unrhyw ddogfennaeth arall fel rhan o'm cais?
Fel rhan o'ch cais ar-lein bydd angen i chi gynnwys:
1. Datganiad personol
- Pam eich bod yn dymuno dilyn y cwrs penodol hwn, a'ch diddordeb yn y pwnc
- Sut mae eich gradd israddedig ac unrhyw brofiad blaenorol wedi'ch paratoi ar gyfer y cwrs. Dylai ymgeiswyr nad ydynt wedi cwblhau cwrs lefel brifysgol yn flaenorol ddangos sut mae eu gyrfa hyd yma wedi'u paratoi ar gyfer astudio ôl-raddedig
- Eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol (gyrfa a/neu academaidd) a sut bydd y cwrs penodol hwn yn cyfrannu atynt
Dylech ddefnyddio'r datganiad personol i amlinellu eich diddordeb yn eich rhaglen astudio a ddewiswyd. Dyma'ch cyfle i ddwyn perswâd ar diwtor derbyn y dylai gynnig lle i astudio i chi - cadwch eich datganiad yn gryno, yn benodol ac yn berthnasol, dylech wirio bod y sillafu a'r gramadeg yn gywir, a dylech geisio cynnwys y canlynol:
Dylech deilwra eich datganiad personol i'r cwrs ac i'r adran a byddwch yn fanwl - mae angen i chi ddangos eich gwybodaeth a'ch sgiliau am y pwnc, yn ogystal â brwdfrydedd ac ymrwymiad ystyrlon i'r hyn y byddwch yn ei astudio.
Peidiwch â chynnwys manylion am weithgareddau allgyrsiol oni bai eu bod yn wirioneddol yn cyfrannu at eich dealltwriaeth o'r cwrs a'ch awydd i astudio'r pwnc.
2. Dau ganolwr academaidd neu'n gysylltiedig â'r gwaith
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno dau eirda fel rhan o'ch cais. Os ydych chi wedi graddio yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, dylai'r rhain fod yn ddarlithwyr neu'n diwtoriaid o gwrs blaenorol.
Os oes bwlch hir ers y tro diwethaf i chi astudio neu eich bod yn dod o gefndir nad yw'n un academaidd, fel arfer bydd tiwtoriaid derbyn yn derbyn geirdaon gan gyflogwr neu gan unigolyn priodol arall a all roi sylw rhesymol ar eich gallu academaidd. Ni dderbynnir geirdaon gan berthnasau na chyfeillion.
Os ydych chi'n defnyddio cyflogwr blaenorol fel canolwr, dylech feddwl yn ofalus am y person i'w ddewis. Mae geirda gan gyflogwr yn werthfawr os oes modd iddo roi sylw ar eich gallu i ddilyn y cwrs yng nghyswllt eich profiad gwaith yn unig.
Sut dylid cyflwyno geirdaon?
Dylid cyflwyno geirdaon NAILL AI:
- Ar y ffurflenni perthnasol i ganolwyr, NEU
- Ar bapur pennawd, NEU
- Eu hanfon trwy e-bost o gyfrif e-bost academaidd
Pryd ddylwn ddisgwyl clywed am ganlyniad fy nghais?
Ar ôl i ni dderbyn eich cais ar-lein a'r holl ddogfennaeth ategol, byddwn yn cydnabod derbyn eich cais drwy e-bost ymhen dau ddiwrnod gwaith.
Rydym yn anelu at eich hysbysu o'n penderfyniad (neu anfon gwahoddiad i gyfweliad) ymhen 10 diwrnod gwaith o anfon eich neges e-bost yn cydnabod derbyn eich cais.
Am wybodaeth bellach am yr hyn sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno eich cais, ewch i'n tudalennau gwe Ôl-raddedigion - Ar ôl i chi wneud cais. Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig drwy e-bost neu drwy ffonio: +44 (0) 1792 295358.