Trosolwg o'r Cwrs
A oes gennych ymwybyddiaeth fasnachol gref a diddordeb mewn rheoli cyflenwi ym marchnadoedd byd-eang a hynod gystadleuol yr oes sydd ohoni?
Mae'r rhaglen MSc Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb amlwg mewn deall sut y caiff cynhyrchion a gwasanaethau eu creu a'u dosbarthu, a dysgu sut y gellir gwella'r broses hon ar gyfer cwmnïau'r 21ain ganrif. Cynlluniwyd y cwrs gradd yn benodol â ffocws clir ar reoli mewn cymuned fyd-eang gydgysylltiedig.
Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i chi ganolbwyntio ar fodiwlau sy'n ymwneud â rheoli cadwyni cyflenwi byd-eang a rheoli prosiectau. Mae hefyd yn mynd i'r afael â chysyniadau rheoli craidd fel rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli gwaith marchnata.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig gorff siartredig yn y DU sy'n ymwneud yn benodol â hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar gael i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Pan fyddwch wedi graddio, byddwch yn ennill tystysgrif lefel 7 CMI.
Gwyddom fod hwn yn fyd cystadleuol. Er mwyn eich helpu i gael y gorau o'ch astudiaethau a chael mantais dros eich cystadleuwyr, mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy'n cwmpasu materion fel dulliau ymchwil.