Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych yn ystyried gyrfa ym maes cyllid, bydd y cwrs MSc Rheoli Ariannol Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe'n rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i chi.
Bydd y rhaglen yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth estynedig a manwl o ddamcaniaeth academaidd cyllid, ynghyd â gallu ymarferol cryf, a fydd yn rhoi mantais sylweddol i chi yn y sector byd-eang cystadleuol hwn.
Does dim angen cefndir mewn cyfrifeg neu gyllid arnoch i astudio'r cwrs trosi blwyddyn o hyd hwn. Mae'n addas i fyfyrwyr o unrhyw gefndir sy’n awyddus i ddechrau gyrfa ym maes cyllid. Mae wedi'i gynllunio i adeiladu ar eich astudiaethau israddedig a rhoi llwybr carlam i’ch galluogi i ffynnu yn y proffesiwn rydych wedi'i ddewis, unrhyw le yn y byd.
Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae'n cynnwys eithriad o hyd at bump o arholiadau sylfaenol y Gymdeithas. Mae hyn yn seiliedig ar eich dysgu blaenorol ac mae'n golygu na fydd rhaid i chi astudio'r un pynciau rydych chi wedi'u dysgu eisoes.
Yn ogystal, mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau cryf â Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA), Sefydliad y Bancwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddi a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW). Bydd y cysylltiad agos hwn â chyrff proffesiynol yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ac yn rhoi mantais i'ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.