Trosolwg o'r Cwrs
Sefydlwyd Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, a gefnogir gan Sky, i hwyluso cydweithrediad rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â heriau cenedlaethol a thrawswladol dybryd. Mewn partneriaeth â Sky, bydd y fenter ysgoloriaeth i raddedigion hon yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr rhagorol â meddylfryd blaengar sy’n canolbwyntio ar broblemau go iawn y byd, ym maes ysgolheictod, ymgyrchu ac ymarfer cyfreithiol. Mae’n bleser gennym recriwtio ein hail garfan o ddeiliaid ysgoloriaeth.
Ar gyfer ein trydedd garfan, a fydd yn dechrau astudio ym mis Ionawr 2022, rydym yn chwilio am bum deiliad ysgoloriaeth i astudio'r unrhyw un o'r pynciau canlynol:
- Cynhwysiant digidol
- Anghyfiawnder hiliol
- Hawliau plant
- Yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd
- Hawliau dynol
Os cewch eich derbyn i’r rhaglen meistr hon, byddwch yn derbyn ysgoloriaeth a fydd yn talu’r ffioedd dysgu llawn yn ogystal â grant gwerth £15,000 i gyfrannu at eich costau byw.
Bydd deiliaid yr ysgoloriaeth yn meddu ar ragoriaeth academaidd, ynghyd ag ymagwedd greadigol, â phwyslais ar weithredu, at gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth. Byddant yn dilyn rhaglen gradd Meistr yn y Celfyddydau blwyddyn (12 mis) o hyd mewn Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi ac Ymarfer. Mae’r rhaglen gradd hon yn seiliedig ar ddysgu drwy brofiad, ac mae’n cynnwys lleoliad prosiect ymchwil. Bydd deiliaid yr ysgoloriaeth hefyd yn elwa o amrywiaeth o weithgareddau ychwanegol, gan gynnwys mentora, siaradwyr gwadd, ymweliadau a hyfforddiant yn y cyfryngau.
Gan ystyried natur bwrpasol y rhaglen a’r cyfleoedd sydd ar gael, sylwer ein bod yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd eisoes wedi ennill cymwysterau lefel Meistr, yn ogystal â chan y rhai sy’n meddu ar radd israddedig dda.