Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLM mewn TechCyfreithiol yn rhoi cyfle i chi chwarae rhan flaenllaw mewn maes sy'n tyfu'n gyflym, gan gyflwyno cyfleoedd gyrfa cyffrous i fanteisio ar bŵer technoleg yn y proffesiwn cyfreithiol.
Mae Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau cysylltiedig yn chwarae rhan gynyddol mewn ymarfer cyfreithiol. Bydd y rhaglen feistr arloesol a chyfoes hon yn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau i ddeall a chroesawu'r dechnoleg newydd hon, i arloesi ac i roi 'TechCyfreithiol' ar waith.
Byddwch yn ystyried sut y mae technolegau megis Deallusrwydd Artiffisial a Blockchain yn effeithio ar wasanaethau cyfreithiol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio gyda systemau Deallusrwydd Artiffisial, i ddatblygu cymwysiadau a datrysiadau TechCyfreithiol, i ymgyfarwyddo â gweithio gyda Data Mawr, ac i ddeall yr heriau cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â thechnoleg.