Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein cwrs MSc mewn Peirianneg Ddeunyddiau gyda Diwydiant ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Mae proses ddethol ar gyfer y cwrs hwn - gweler yr adran 'sut i ymgeisio' ar y dudalen hon.
Cewch ddwy flynedd o brofiad yn y DU a’r cyfle i weithio ar y cyd â diwydiant ar her go-iawn.
Mae’r radd MSc newydd hon yn estyniad i’n MSc mewn Peirianneg Ddeunyddiau ac mae’n cynnwys ail flwyddyn a fydd yn eich galluogi i ymgymryd â lleoliad mewn diwydiant neu brosiect sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant ar y cyd â phartner diwydiannol.