Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc mewn Nanowyddoniaeth i Nanodechnoleg yn eich galluogi i ddeall egwyddorion sylfaenol ffiseg a pheirianneg sy'n cael dylanwad sylweddol ar nanodechnoleg.
Byddwch yn meithrin gwybodaeth am y ffordd y caiff cysyniadau cyffredinol gwaith ymchwil mewn nanowyddoniaeth eu trosglwyddo i gymwysiadau a chynhyrchion peirianneg.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), ac mae'n ymdrin â'r technegau sydd eu hangen i gynnal ymchwiliadau gwyddonol gan ddefnyddio dimensiynau bach iawn, a'r datblygiadau ymchwil diweddaraf yn y maes hwn sy'n esblygu'n gyflym.