Trosolwg o'r Ganolfan
Mae’r cwrs gradd Meistr Erasmus Mundus mewn Moeseg ac Uniondeb Chwaraeon (MAiSI) sy’n arwain yn fyd-eang, yn rhaglen ôl-raddedig amser llawn am 2 flynedd a gyflwynir gan chwe phrifysgol uchel eu parch yn Ewrop, gan gynnwys Prifysgol Abertawe.
Bob blwyddyn, mae’r cwrs yn denu hyd at 25 o fyfyrwyr o safon uchel o bob cwr o’r byd i ffurfio carfan sy’n wirioneddol aml-genedlaethol ac aml-ddiwylliannol ac sy’n meddu ar ystod helaeth o brofiad a sgiliau o’r diwydiant chwaraeon a’r tu allan iddo.
Fel myfyriwr MAiSI, cewch gyfle i astudio mewn nifer o brifysgolion Ewropeaidd gwahanol gan gynnwys KU Leuven, Gwlad Belg; Prifysgol Charles, Prague; UPF Barcelona; Prifysgol Mainz, yr Almaen; a Phrifysgol y Peloponnese, Gwlad Groeg. Mae academyddion Prifysgol Abertawe (yr Athro Mike McNamee, Dr Andrew Bloodworth, Dr John William Devine a Dr Andy Harvey) yn rhoi mewnbwn sylweddol i’r rhaglen addysgu, yn enwedig ar y modiwlau moeseg chwaraeon, atal dopio, a chydraddoldeb a chynhwysiant.
Mae graddedigion diweddar y cwrs gradd MAiSI wedi sicrhau swyddi yn y diwydiant gan gynnwys rolau ar y Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, yr Uned Uniondeb Athletau, UNODC, yn ogystal â nifer o ysgoloriaethau ymchwil PhD a ariennir yn llawn.
I ddysgu mwy am y cwrs gradd MAiSI a sut i gyflwyno cais, cliciwch ar y dolenni isod.
Os oes gennych chi ymholiadau anffurfiol am y rhaglen, e-bostiwch Dr Andy Harvey yn a.n.harvey@abertawe.ac.uk