Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi’n feddyg neu’n nyrs neu'n weithiwr iechyd proffesiynol arall ar unrhyw gam o’ch gyrfa ac mae gennych rôl arwain neu reoli, neu os ydych chi’n anelu at rôl o’r fath, bydd ein MSc Arweinyddiaeth ar gyfer y Proffesiynau Iechyd yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau y mae eu hangen arnoch i ffynnu yn eich gyrfa.
Dyluniwyd ein rhaglen datblygu arweinyddiaeth ryngbroffesiynol, aml-lefel i weithwyr iechyd proffesiynol prysur, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Mae’n hymagwedd dysgu cyfunol yn cynnwys diwrnodau cyswllt wyneb yn wyneb sy’n cael eu hategu gan ddysgu ar-lein, a chymorth gan diwtoriaid, mentoriaid a chymheiriaid. Gallwch astudio ar y campws, naill ai yn Abertawe neu yn Nghaerlŷr, drwy ddysgu o bell neu gyfuniad o’r ddau.
Mae’r rhaglen ran-amser hon yn darparu sgiliau datblygu arweinyddiaeth damcaniaethol ac ymarferol i chi y gallwch eu defnyddio ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd arwain a rheoli mewn gofal iechyd ac addysg. Byddwch yn dysgu o ymagwedd unigryw, sy’n seiliedig ar astudiaethau achos lle byddwch yn ystyried pob agwedd ar weithgareddau gweithwyr proffesiynol o safbwynt arwain a rheoli.