Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.
Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
- Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
- Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
- Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa
- Cyngor ac arweiniad ar astudio a chyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig.
- Ariannu i gefnogi cyfleoedd interniaethau myfyrwyr a digwyddiadau Cymdeithasau/Clybiau Myfyrwyr
Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.
Cyflogadwyedd yn Ysgol y Gyfraith
Mae Ysgol y Gyfraith yn gweithredu mewn modd rhagweithiol er mwyn gwella cyflogadwyedd graddedigion, ac mae ganddi Swyddog Cyflogadwyedd a Lleoliadau penodedig. Mae'r Ysgol yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyrsiau proffesiynol, cyngor a chymorth i'ch helpu i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni eich uchelgeisiau.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwe-dudalen cyflogadwyedd.
Er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, bydd yn rhaid i chi gwblhau'r cam hyfforddi galwedigaethol. Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn cynnig Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) llawn amser a rhan amser, a thrwy gwblhau'r cwrs hwnnw yn llwyddiannus, byddwch yn bodloni gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am ein LPC, cysylltwch â Michaela Leyshon, Tiwtor Derbyn yr LPC.
Mae nifer gynyddol o raddedigion nad oes ganddynt radd yn y gyfraith yn cael croeso cynnes i'r proffesiwn cyfreithiol, oherwydd ystyrir eu bod yn cynnig safbwynt newydd wrth ymarfer y gyfraith, ac erbyn hyn, mae tua 50% o'r holl gyfreithwyr newydd yn raddedigion o'r fath. Mae cwblhau GDL Abertawe yn llwyddiannus, a gaiff ei achredu gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, y Bar ac ILEX, yn bodloni'r holl ofynion academaidd ar gyfer cael eich derbyn i'r cam hyfforddi galwedigaethol fel cyfreithiwr, bargyfreithiwr neu weithredwr cyfreithiol.
Yn ogystal â'r cyfle i weithio mewn cwmnïau a siambrau lleol a chenedlaethol, cyrff cyhoeddus a busnesau, caiff cyfreithwyr cymwys yn y DU hefyd y cyfle i weithio mewn amgylcheddau cyfreithiol ledled y byd.