Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi'n raddedig sy'n gweithio mewn lleoliad gofal iechyd ac yn ystyried mynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf, mae ein MSc mewn Nyrsio Plant ar eich cyfer chi.
Wedi'i gynllunio ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd nad ydynt wedi'u cofrestru, bydd y cwrs gradd Meistr dwy flynedd hwn yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi i lansio gyrfa werth chweil yn y proffesiwn hanfodol hwn.
Byddwch yn dysgu am anghenion cyfannol pobl o oedolaeth gynnar hyd nes eu bod yn hen ac yn datblygu'r sgiliau proffesiynol i ddarparu gofal nyrsio o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a chymunedol.
Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn datblygu'r sgiliau i asesu, cynllunio, cyflwyno, a gwerthuso gofal yn seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo iechyd a lles oedolion â chyflyrau acíwt a chronig.