Sgip i brif cynnwys Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Menu Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
  5. Cyfrifiadureg
  6. Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MSc
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored Rhithwir
      Student sat at a laptop wearing headphones

      Diwrnodau Agored Israddedig ac Ôl-raddedig

      Cofrestrwch nawr
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Rhieni a Gwarcheidwaid
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Clirio ym Abertawe
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Pythefnos y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ymchwil
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Canmlwyddiant 2020
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Iechyd a Ffitrwydd
      • Perfformiad ac Ysgoloriaethau
      • Chwaraeon i fyfyrwyr - Chwaraeon Myfyriwr
      • Rhaglenni a Digwyddiadau
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Llefydd i Fwyta ar Gampws
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Colegau Academaidd
      • Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau
      • Coleg Peirianneg
      • Gwyddorau Dynol ac Iechyd
      • Ysgol y Gyfraith
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol Feddygaeth
      • Y Coleg Gwyddoniaeth
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Ôl-raddedig
  3. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
  4. Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
  5. Cyfrifiadureg
  6. Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MSc

Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MSc

Tudalennau cysylltiedig
  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
      • Biowyddorau
      • Cyfrifiadureg
        • Cyfrifiadureg Uwch, MSc
        • Cyfrifiadureg - Informatique (Abertawe), MSc
        • Technoleg Meddalwedd Uwch, MSc
        • MSc Cyfrifiadureg
        • Seiberddiogelwch, MSc
        • Gwyddor Data, MSc
        • Cyfrifiadureg - Informatique (Grenoble), MSc
        • Cyfrifiadureg Uwch gyda Diwydiant, MSc
        • Data Mawr a Deallusrwydd Artiffisial o Safbwynt Defnyddwyr, MSc
      • Daearyddiaeth
      • Mathemateg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan!
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Cyflwyno Ein Myfyrwyr Ôl-Raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio
Diwrnod Agored
Cadwch Mewn Cysylltiad
Image

Cyfrifiadura yn Abertawe yw'r 10 uchaf yn y DU ar gyfer rhagolygon Graddedigion

The Complete University Guide 2021

Manylion Allweddol y Cwrs

  • D.U.
  • U.E.
  • Rhyngwladol
MSc 2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:1
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 8,950
MSc 2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol (gweler dewisiadau arall)
2:1
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 18,550
MSc 2 Flynedd Llawn Amser Gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Dull Astudio
Ar y Campws
Cynnig Nodweddiadol
2:1 - Gwybodaeth Rhagor
Lleoliad
Campws y Bae
Dyddiad Dechrau Ffioedd Dysgu - Blwyddyn 1
Med 2021 £ 18,550

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MSc Cyfrifiadureg Uwch gyda Diwydiant ar agor i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig. Mae proses ddethol ar gyfer y cwrs hwn – gweler yr adran 'sut i wneud cais' ar y dudalen hon.

Gallwch gael dwy flynedd o brofiad yn y DU a'r cyfle i gydweithio â diwydiant ar her bywyd go iawn. Mae'r MSc newydd hwn yn estyniad o'n MSc Cyfrifiadureg Uwch ac mae'n cynnwys ail flwyddyn sy'n eich galluogi  chi i ymgymryd â lleoliad diwydiannol neu brosiect sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant gyda phartner diwydiannol.

Pam Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn Abertawe?

  • 5ed am foddhad gyda'ch cwrs gan Ganllaw Prifysgol y Guardian 2021.
  • Y 10 uchaf yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedigion gan Complete University Guide 2021.
  • Rydym yn yr 20 uchaf yn y DU am Ragoriaeth Ymchwil [Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021].
  • Safle Byd-eang [QS Safleoedd Prifysgol y Byd].

Fe'ch dysgir gan arbenigwyr cyfrifiaduron ysbrydoledig megis yr Athro Matt Jones, a gydnabyddir yn eang fel arweinydd wrth rymuso cymunedau digidol gwledig yn y DU ac ar draws y byd datblygol.

Eich Profiad Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae gennych y rhyddid i lywio rhan gyntaf eich astudiaethau gyda chyfres o fodiwlau gwerth 15 credyd, a bydd prosiect 60 credyd yn diffinio'r ail ran.

Dros gyfnod y cwrs hwn, byddwch yn cael eich addysgu gan staff o grwpiau ymchwil ag enw rhyngwladol. Mae eu gwybodaeth am ddatblygiadau cyson ym maes Cyfrifiadureg yn helpu i gadw'r hyn a ddysgwch yn gyfoes ac yn berthnasol i'r diwydiant ehangach.

Yn ogystal, adlewyrchir ein hymrwymiad i ddilyn datblygiadau technoleg yn y caledwedd y byddwch chi'n gweithio gydag ef bob dydd.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Bydd cwblhau'r MSc hwn yn gwella eich rhagolygon gyrfa ym maes cyfrifiadureg uwch yn sylweddol. Yn aml, mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gyflogaeth lwyddiannus ym maes cyfrifiadureg gyda chyflogwyr uchel eu parch. Ceir rhestr o sawl cyrchfan ddiweddar isod:

  • Peiriannydd Meddalwedd, Motorola Solutions
  • Cydlynydd Newid, Logica
  • Datblygwr/Peiriannydd Meddalwedd, NS Technology
  • Datblygwr Llif Gwaith, Irwin Mitchell
  • Datblygwr TG, Crimson Consultants
  • Rhaglennydd, Evil Twin Artworks
  • Datblygwr Gwe a Chymorth Gwe, VSI Thinking
  • Datblygwr Meddalwedd, Wireless Innovations
  • Dadansoddwr Rhaglenni Busnes Cyswllt, CDC Software
  • Datblygwr Meddalwedd, OpenBet Technologies
  • Ymgynghorydd Cymorth Technegol, Alterian
  • Rhaglennu, Rock It
  • Datblygwr Meddalwedd, BMJ Group

Ymwadiad Rhaglen

Prosbectws ol-raddedig

Darganfyddwch eich prifysgol

Ewch ar rithdaith

virtual tour

Astudio trwy’r Gymraeg

welsh medium

Manyleb Rhaglen

Gofynion Mynediad

Gradd anrhydedd 2:1 (neu uwch) mewn Cyfrifiadureg neu ddisgyblaeth berthnasol arall.

IELTS 6.0 (gyda lleiafswm o 5.5 ymhob elfen) neu brawf Saesneg cyfatebol.

Sylwer bod nifer cyfyngedig ar y rhaglen hon – gweler 'Sut i wneud cais' am ragor o wybodaeth ynghylch gofynion.

Sut byddwch chi'n cael eich dysgu

Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a thraethawd hir ar y cwrs.

Darpariaeth Gymraeg

Os wyt ti'n siarad Cymraeg, mae Academi Hywel Teifi, yma i'th gefnogi gydol dy amser ym Mhrifysgol Abertawe o safbwynt dy astudiaethau a'th brofiad myfyriwr. Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig:

  • Cyfweliad cyfrwng Cymraeg wrth wneud cais am le ar gwrs.
  • Dewis i gael gohebiaeth bersonol yn y Gymraeg – byddwn yn cyfathrebu yn dy ddewis iaith.
  • Dewis i ysgrifennu a chyflwyno dy waith cwrs, a sefyll dy arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg (hyd yn oed os mai Saesneg yw iaith dy astudiaethau) a gwneir pob ymdrech i'w farcio'r gwaith yn yr iaith wreiddiol.
  • Tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg.
  • Cymorth un-i-un i loywi dy sgiliau Cymraeg academaidd.

Ers 2011, mae cynnydd o 113% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ôl ein data TEF yn 2017 a 2018 mae myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn llwyddiannus iawn o safbwynt cyflogadwyedd.

Cwrdd â'ch Darlithwyr

Byddwch yn ymuno â'r gymuned Gyfrifiadura ac yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr o'r radd flaenaf sy'n frwdfrydig am eu hymchwil ac sy'n gweithio tuag at Nodau Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig i lywio'r byd er gwell . Mae ein meysydd ymchwil yn cynnwys cryptoarian, diogelwch data, seiberderfysgaeth a thechnolegau rhyngweithio'r dyfodol.

Yr Athro Arnold Beckmann Pennaeth Adran

Dr Monika Seisenberger, Cyfarwyddwr y Rhaglen

Dr Liam O’Reilly, Tiwtor Derbyn

Dr Phillip James, Tiwtor Derbyn

Ffioedd Dysgu

Dyddiad Dechrau D.U. U.E. Rhyngwladol
Medi 2020 £ 8,700 £ 8,700 £ 18,000
Medi 2021 £ 8,950 £ 18,550 £ 18,550

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Ariannu ac Ysgoloriaethau

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.

Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau. I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.

I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog. I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi

Costau Ychwanegol

Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.

Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Teithio i'r campws ac oddi yno
  • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Prynu llyfrau neu werslyfrau
  • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam yn eu taith yrfaol.

Mae ein gwasanaethau cymorth gyrfaoedd yn cynnwys:

  • Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd
  • Cyngor ac arweiniad unigol gan Ymgynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol
  • Cymorth i chwilio am swyddi, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli
  • Mynediad i adnoddau gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau rheoli gyrfa

Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe am hyd at bum mlynedd ar ôl iddynt raddio.

Cymorth Academaidd

Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor academaidd personol, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn meysydd fel:

  • Ysgrifennu academaidd
  • Mathemateg ac ystadegau
  • Meddwl critigol
  • Rheoli amser
  • Sgiliau digidol
  • Sgiliau cyflwyno
  • Cymryd nodiadau
  • Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
  • Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)

Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan ein darlithwyr bolisi 'drws agored' er mwyn i chi allu trafod unrhyw bryderon a allai fod gennych â nhw. Nid oes yn rhaid i'r rhain fod yn gysylltiedig â'r cwrs. Mae ein staff academaidd yno i'ch helpu gydag unrhyw beth  yn ystod eich amser yn Abertawe.

Mae cynrychiolydd myfyrwyr ar bob cwrs. Maent yno i sicrhau y gwrandewir ar lais pob myfyriwr. Eu rôl yw gwrando ar eich barn a throsglwyddo adborth yn seiliedig arni, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a sicrhau bod y sawl sy'n gallu gwneud newidiadau’n gwrando ar y bobl sy’n cyfrif, sef chi!

Rydym yn cynnig mentora academaidd a mentora cymheiriaid.  Neilltuir Mentor Academaidd i bob myfyriwr ar gwrs israddedig a fydd yn cynnig nid yn unig Arweiniad Academaidd ond cyngor ar gyllid a chyrchu cymorth ar gyfer materion personol. Mae ein cynllun Mentora Cymheiriaid ar waith i helpu  myfyrwyr newydd i ymgartrefi ym mywyd prifysgol yma yn Abertawe. Byddwch yn cael cyfle i siarad â'ch mentor a fydd yn gallu siarad â chi am ei brofiadau fel myfyriwr a hefyd sgwrsio am fywyd fel myfyriwr. Mae'r cynllun mentor cymheiriaid yn ffordd wych o gwrdd â myfyrwyr ac ehangu eich cylch o ffrindiau tra byddwch yn Abertawe.

Gallwch hefyd gael cymorth gyda materion personol gan amrywiaeth eang o wasanaethau i fyfyrwyr megis BywydCampws, Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr a'r Ganolfan dros Lwyddiant Academaidd.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais nawr – myfyrwyr rhyngwladol.

Bydd angen i chi ddarparu datganiad personol sy'n mynd i'r afael â'r 2 gwestiwn canlynol:

Cwestiwn 1: beth y gallaf ei gynnig i'r lleoliad diwydiannol?

Cwestiwn 2: Beth ydw i'n gobeithio ei ennill o'r profiad diwydiannol?

Y dyddiad cau yw 30 Mehefin 2019. Dyddiad y cyfarfod dethol yw 8 Gorffennaf.

Rhaid i'ch cais gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

Trawsgrifiad academaidd (gan gynnwys strwythur graddio)
Tystiolaeth o unrhyw wobrwyon/gwobrau academaidd yr ydych wedi eu cael ar gyfer rhagoriaeth academaidd
Datganiad personol yn ymdrin â chwestiynau a restrir uchod
Cv
Tystiolaeth o unrhyw gyflawniadau chwaraeon/profiad gwirfoddoli/cymwysterau proffesiynol
Bydd llythyrau o gefnogaeth yn ffurfio rhan o'r broses ddethol a chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich canolwyr enwebedig yn cyflwyno geirdaon erbyn y dyddiad cau
Am arweiniad pellach ewch i'n Tudalen sut i wneud cais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Sylwer bod y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig. Mae proses ddethol ar gyfer y cwrs hwn – gweler yr adran sut i wneud cais

  • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Cyflwyniad i astudiaeth ôl-radd
  • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn y Coleg Peirianneg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Reolaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol Feddygaeth
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir Coleg Gwyddoniaeth
      • Biowyddorau
      • Cyfrifiadureg
        • Cyfrifiadureg Uwch, MSc
        • Cyfrifiadureg - Informatique (Abertawe), MSc
        • Technoleg Meddalwedd Uwch, MSc
        • MSc Cyfrifiadureg
        • Seiberddiogelwch, MSc
        • Gwyddor Data, MSc
        • Cyfrifiadureg - Informatique (Grenoble), MSc
        • Cyfrifiadureg Uwch gyda Diwydiant, MSc
        • Data Mawr a Deallusrwydd Artiffisial o Safbwynt Defnyddwyr, MSc
      • Daearyddiaeth
      • Mathemateg
    • Cyrsiau Ôl-raddedig a ddysgir yn dod yn fuan!
  • Cysylltu â'r tîm Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig
  • Myfyrwyr presennol
  • Sut i Wneud Cais am Gwrs Ôl-raddedig a Addysgir
  • Rhaglenni Ymchwil
  • Ffioedd ac ariannu
  • Diwrnodau Agored Ôl-raddedig
  • Gwneud cais
  • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
  • Llety
  • Pam astudio yn Abertawe?
  • Academi Hywel Teifi
  • Bywyd Myfyriwr
  • Adran Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
  • Gwybodaeth i rieni
  • Cofrestru a sefydlu
  • Ymholiad Ôl-raddedig
  • Newidiadau rhaglen ôl-raddedig
  • Cyflwyno Ein Myfyrwyr Ôl-Raddedig
  • Prosbectws Ôl-raddedig
Ymgeisio Diwrnod Agored Gofynnwch gwestiwn i ni
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Colegau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342