Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch mentor
academaidd personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ein myfyrwyr yn bwysig i ni a'n nod yw sicrhau eich bod yn ennill y dosbarth gradd gorau. Mae gennym system mentora personol lle y dyrennir mentor academaidd i chi. Mae gennym hefyd bolisi "drws agored" lle mae ein hathrawon academaidd ar gael i siarad â chi ar unrhyw adeg am unrhyw ymholiadau neu bryderon academaidd a allai fod gennych.