Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Llên Naratif yr Henfyd yn gwrs dynamig sy'n arwain y blaen. Caiff yr archwiliad trylwyr o'r naratif a gynhyrchwyd yn yr hen Roeg, Rhufain a'r Aifft ei lywio gan arbenigedd ymchwil a gydnabyddir yn fyd-eang.
Byddwch yn canolbwyntio ar naratifau ffuglennol a ffeithiol mewn amrywiaeth o ffurfiau llenyddol. Mae'r rhain yn cynnwys y nofel, barddoniaeth epig, chwedloniaeth, hanesyddiaeth a bywgraffiad. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddechrau neu barhau i astudio Groeg a Lladin.
Bydd cysyniadau allweddol theori lenyddol a diwylliannol yn eich annog i ymchwilio i destunau hynafol mewn ffyrdd creadigol newydd. Yn ogystal â'r hen glasuron llenyddol, byddwch yn archwilio testunau llai adnabyddus sy'n adrodd hanesion pobl ar yr ymylon oherwydd rhywedd a statws cymdeithasol.
Os ydych yn bwriadu ymchwilio ymhellach i'r maes bywiog hwn o lenyddiaeth glasurol, sy'n datblygu'n gyflym, mae'r MA mewn Llên Naratif yr Henfyd yn baratoad gwych.