Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Technoleg Cyfieithu yn cynnig cyfle Datblygu Proffesiynol Parhaus gwerthfawr i gyfieithwyr sydd am feithrin neu wella sgiliau technoleg cyfieithu.
Drwy waith grŵp manwl ac astudio unigol byddwch yn cael profiad ymarferol o adnoddau cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, cyfieithu peirianyddol, lleoli meddalwedd a rheoli terminoleg sy'n cyrraedd safon y diwydiant.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i feithrin sgiliau ym maes Dehongli gwasanaethau cyhoeddus neu gyhoeddi digidol, neu efallai y byddwch am ddilyn modiwl mwy academaidd ym maes hanes a theori cyfieithu.
Mae'r cwrs hwn, sy'n gwrs amser llawn yn unig, yn cynnwys 60 credyd (30 ECTS) dros ddau dymor.