Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Cyfieithu a Dehongli (MATI) yn amrywiad arbenigol unigryw o'n cwrs Cyfieithu Proffesiynol, gyda phwyslais ar sgiliau dehongli. Mae'n eich helpu i ddatblygu o fod yn siaradwr iaith dramor ardderchog i fod yn ieithydd proffesiynol llwyddiannus.
Bydd eich astudiaethau cyfieithu uwch yn canolbwyntio ar fathau cyffredinol, gweinyddol a thechnegol o destun, gan ddehongli mewn un neu ddau o blith llywodraeth leol, iechyd, yr heddlu a'r llysoedd, a hyfforddiant ar adnoddau cyfieithu â chymorth cyfrifiadur sy'n cyrraedd safon y diwydiant.
Mae rhan gyntaf y radd yn cynnwys y cyfle i arbenigo mewn dehongli, cyfieithu clywedol, cyfieithu peirianyddol a lleoli meddalwedd, rheoli terminoleg, creu fideo neu gyhoeddi digidol.
Yn y modiwl profiad gwaith ym maes cyfieithu byddwch yn dynwared cwmnïau cyfieithu drwy weithio gyda busnesau cyfieithu lleol a chyflawni gwaith comisiynu go iawn i safonau proffesiynol.
Yn ail ran y radd cyfunir sgiliau gwahanol, gan gynnig dewis o ddau gyfieithiad estynedig, neu draethawd hir academaidd, neu interniaeth 13 wythnos gyda chwmni cyfieithu yn y DU neu dramor.
Parau iaith (yn amodol ar alw):
- Almaeneg > Saesneg
- Saesneg > Almaeneg
- Ffrangeg > Saesneg
- Saesneg > Ffrangeg
- Eidaleg > Saesneg
- Saesneg > Eidaleg
- Sbaeneg > Saesneg
- Saesneg > Sbaeneg
- Cymraeg > Saesneg
- Saesneg > Cymraeg
- Saesneg > Arabeg
- Saesneg > Mandarin