Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc mewn Peirianneg Bŵer ac Ynni Cynaliadwy yn sicrhau eich bod yn meddu ar wybodaeth gadarn am ddyfeisiau a thechnolegau lled-ddargludo, electroneg pŵer uwch a systemau pŵer uwch.
Byddwch hefyd yn dysgu am dechnolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy, electroneg bylchau band eang, cynaeafu ynni, celloedd solar a biodanwyddau.
Mae pryderon cynyddol am allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynhesu byd-eang yn golygu bod peirianneg bŵer ac ynni cynaliadwy yn bwnc holl bwysig.