Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein MSc mewn Peirianneg Sifil gyda Diwydiant ar agor i fyfyrwyr rhyngwladol yn unig.
Mae proses ddethol ar gyfer y cwrs hwn - gweler yr adran 'sut i ymgeisio' ar y dudalen hon.
Cewch ddwy flynedd o brofiad yn y DU a’r cyfle i weithio ar y cyd â diwydiant ar her go-iawn.
Mae’r radd MSc hyblyg hon yn estyniad i’n MSc mewn Peirianneg Sifil ac mae’n cynnwys ail flwyddyn sy’n caniatáu i chi ymgymryd naill ai â lleoliad gwaith mewn diwydiant neu brosiect â ffocws diwydiannol gyda phartner diwydiannol.