Er mai gwlad gymharol fach ydyw, mae digon o bethau i'w gwneud os byddwch yn dewis treulio eich amser dramor yn Slofenia. Mae'n gyrchfan awyr agored go iawn o gopaon uchel Alpau Julian i ardal brydferth Llyn Bled, llyn rhewlifol a fwydir gan ffynhonnau poeth, ac mae digon o gyfleoedd i sgïo, heicio a rafftio.  Mae ei lleoliad yng nghanol Ewrop yn cynnig digon o gyfleoedd i deithio o amgylch Ewrop. Mae gan Slofenia hinsawdd Ewropeaidd nodweddiadol gyda hafau sych, cynnes a gaeafau oer, tra bod ardaloedd arfordirol yn cael eu dylanwadu'n fwy gan Fôr y Canoldir. Mae'n lle prydferth iawn i dreulio eich amser dramor.

Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol: