Myfrywyr yn astudio gyda'i gilydd

Lleolir Universite d'Avignon et des Pays de Vaucluse yn Avignon, un o brif ddinasoedd Provence yn ne Ffrainc. Avignon yw prif ddinas rhanbarth Vaucluse ac fe'i lleolir ar lannau afon Rhône. Yno, gallwch ddisgwyl hinsawdd môr y Canoldir gyda gaeafau mwyn a hafau poeth. Mae gan y brifysgol ddau gampws a bydd unrhyw fyfyrwyr cyfnewid sy'n astudio Peirianneg yn cael eu lleoli ar gampws Jean-Henri Fabre. Mae CROUS yn cynnig llety i fyfyrwyr ac, yn ogystal â hyn, gall y Swyddfa Ryngwladol roi cyngor ar lety.