Prifysgol Abertawe... Lle mae'r dyfodol byd-eang yn dechrau

Fel myfyriwr Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn gallu trosglwyddo o'ch cynllun gradd tair blynedd i gwrs pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn dramor. Fel arfer, bydd angen i chi ddechrau meddwl am hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf ac yna ddod draw i sgyrsiau Astudio Dramor ar ddechrau eich ail flwyddyn, lle byddwn yn dweud wrthych am yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud nesaf.

Yn y cyfamser, edrychwch ar y prifysgolion partner y mae'r adran Ffiseg yn gweithio ar y cyd â hwy ar hyn o bryd. Gall y rhestr hon newid yn flynyddol ac efallai byddwch yn gallu cyflwyno cais am le gyda phartner ‘prifysgol-eang’ hefyd; fodd bynnag, mae nifer y lleoedd sydd ar gael a’r cyrchfannau’n amrywio o un flwyddyn i’r llall felly byddwch yn barod i fod yn hyblyg! Gall y dewisiadau sydd ar gael i chi ddibynnu ar fanylion y setliad Brexit a negodir gan lywodraeth y DU.