Mae Ysgoloriaeth Eira Francis Davies yn ysgoloriaeth ffioedd dysgu llawn a ddyfernir fel arfer i un fyfyrwraig ragorol ym mhob blwyddyn academaidd. Rhaid i'r myfyriwr fod yn ddinesydd ac yn byw mewn gwlad gymwys sy'n datblygu, sy'n dilyn rhaglen Meistr ôl-raddedig a addysgir yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Mae ceisiadau am Ysgoloriaeth Eira Francis Davies ar gyfer Medi 2024 nawr ar agor. Os nad ydych yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth Eira Francis Davies gallwch archwilio cyfleoedd ysgoloriaeth eraill ar gyfer Medi 2023 ar ein Tudalen Ysgoloriaethau Rhyngwladol.

Gwneud cais yma

Cyfarfod â'n Enillwyr Ysgoloriaeth Eira Francis Davies

 Yn y gorffennol, mae enillwyr Ysgoloriaeth Eira Francis Davies wedi dod o amrywiaeth o gefndiroedd academaidd gwahanol ac wedi teithio o nifer o wahanol wledydd. Gellir darganfod mwy am ein cyn enillwyr Ysgoloriaeth Eira Francis Davies.

Pwy Oedd Eira Francis Davies?

Ganwyd Eira Francis Davies ar 17eg Mawrth 1925 i'w rhieni Annie a David Davies yn Nglyn-nedd, De Cymru.

Yn ei bywyd cynnar, fe adawodd Eira Gymru fel oedolyn i weithio i Gymdeithas The Society for The Overseas Settlement of British Women (S.O.S.B.W) yn Llundain fel Swyddog Llesiant Plant. Crëwyd yr S.O.S.B.W ym 1919 fel rhan o addasiadau llywodraeth Prydain i’r economi ar ôl y rhyfel er mwyn hwyluso mudo gweithwyr benywaidd i gyn-wladfeydd anheddwyr gwynion. Teithiodd i Ganada ym mis Medi 1955 ac yn dilyn ei dychweliad i Brydain ym 1956, ymgartrefodd unwaith eto yn ei thref enedigol yng Nglyn-nedd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cymdeithasol Gorllewin Morgannwg.

Deallodd Eira gwerth a phŵer trawsnewidiol addysg; yn enwedig i fenywod o wledydd y gallai eu cefndir economaidd, cymdeithasol a diwylliannol arwain at heriau a rhwystrau i wireddu eu potensial. Fel menyw o fodd annibynnol, fe  wnaeth Eira greu cronfa sylweddol i Brifysgol Abertawe ar gyfer sefydlu Ysgoloriaeth yn ei henw. Ei phwrpas oedd helpu menywod o'r fath i wireddu eu potensial, a thrwy wneud hynny wella eu cymuned a'u mamwlad.

Fe wnaeth Eira gymryd ddiddordeb mawr yn y menywod a noddwyd gan ei hysgoloriaeth. Dilynodd eu cynnydd a'u straeon a bu’n mwynhau cwrdd â nhw yn y Cinio i Enillwyr Ysgoloriaeth blynyddol - er ei bod yn well ganddi gadw ei hunaniaeth yn gudd, ni ddatgelodd ei hun erioed fel eu cymwynaswr.

Bu farw Eira Francis Davies ar 9fed Medi 2020 yn 95 mlwydd oed. Mae Prifysgol Abertawe yn falch o barhau i gefnogi Ysgoloriaeth Eira Francis Davies fel testament i etifeddiaeth a gweledigaeth ryfeddol Eira.

Cyfrannu tuag at Ysgoloriaeth Eira Francis Davies