Sgip i brif cynnwys Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
Hafan Prifysgol Abertawe
  • Swyddi
  • Offer Hygyrchedd
  • Myfyrwyr Cyfredol
  • Staff
  • 中文
  • English
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau
  4. Llyfrgelloedd ac Archifau
  5. Casgliad Archifau ac Ymchwil
  6. Casgliad Hanes Cyfrifiadura
  • Astudio
    • Diwrnodau Agored yn Abertawe
      Three students walking through Bay Campus in the Sun

      Rydyn ni'n disgwyl ymlaen at eich crosawu chi!

      Ymweld â ni
    • Israddedig
      • Cyrsiau
      • Llety
      • Clirio yn Abertawe
      • Canllaw Rhieni a Gwarcheidwaid I'r Brifysgol
      • Diwrnodau Agored
      • Sut i wneud cais
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Ôl-raddedig
      • Cyrsiau
      • Rhaglenni Ymchwil
      • Diwrnod Agored
      • Sut i Wneud Cais
      • Ysgoloriaethau a bwrsariaethau
      • Y Brifysgol
      • Gofynnwch Gwestiwn i Ni
      • Cadwch mewn cysylltiad
    • Bywyd Myfyriwr
      • Astudio
      • Pam Abertawe
      • Bywyd y campws
      • Chwaraeon
      • Cynaliadwyedd - Cymrwch Ran
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe
      • Taith Rhithwir
      • Beth yw Gŵyl y Glas?
    • Gwasanaethau i Fyfyrwyr
      • Llyfrgelloedd ac Archifau
      • BywydCampws
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe
      • Menter Myfyrwyr
      • Canolfan Llwyddiant Academaidd
      • Academi Hywel Teifi
      • Llesiant myfyrwyr
  • Rhyngwladol
  • Ein Ymchwil
    • Gwnewch Ymchwil Gyda Ni
      • Cefnogi eich taith ymchwil ôl-raddedig
      • Dod o hyd i raglen ymchwil ol-raddedig
      • Sut i wneud cais am raglen ymchwil Ôl-raddedig
      • Hyfforddiant a Datblygiad i Oruchwylwyr a Myfyrwyr Ymchwil
    • Archwiliwch ein hymchwil
      • Uchafbwyntiau Ymchwil
      • Ymchwil yn y cyfadrannau
      • Momentum - ein cylchgrawn ymchwil
      • Archwilio Problemau Byd-eang
    • Darganfyddwch ein hymchwil
      • Cyfeiriadur Arbenigedd
      • Dod o hyd i bapur ymchwil
      • Manteisio ar ein Harbenigedd ym maes Ymchwil a Datblygu
    • Ein Hamgylchedd Ymchwil
      • Uniondeb Ymchwil: Moeseg a Llywodraethu
      • Effaith ymchwil
      • Hyfforddiant a datblygiad
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
    • Ein Cenhadaeth Ddinesig
      • Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe
      • Gŵyl Bod yn Ddynol
      • Oriel Science
      • Byd Copr Cymru
  • Busnes
  • Cyn-fyfyrwyr
  • Y Brifysgol
    • Swyddfa'r Wasg
      Female student working with steel

      Newyddion a Ymchwil Diweddaraf straeon

      Darllenwch y newyddion diweddaraf yma
    • Y Brifysgol
      • Amdanom ni
      • Sut i ddod o hyd i ni
      • Dyfarniadau a Safleoedd y Brifysgol
      • Ein Cyfadrannau
      • Swyddfa'r Wasg
      • Swyddi a Gweithio yn Abertawe
      • Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe
      • Teithio i’r campws ac oddi yno
      • Cysylltu â ni
    • Chwaraeon
      • Bod yn Actif
      • Cynghreiriau Cymdeithasol
      • Clybiau Chwaraeon
      • Perfformiad
      • Cyfleusterau
      • Nawdd
      • Ysgoloriaethau
      • Newyddion
    • Bywyd y campws
      • Llety
      • Arlwyo
      • Sefydliad Diwylliannol
      • Y Neuadd Fawr
      • Taliesin
      • Creu Taliesin
      • Ein Tiroedd
      • Cerddoriaeth
      • Rhithdaith
    • Ein Cyfadrannau
      • Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
      • Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
      • Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
      • Y Coleg
    • Academïau
      • Academi Iechyd a Llesiant
      • Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM)
      • Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
      • Academi Hywel Teifi
      • Academi Cynwysoldeb Abertawe (SAI)
  • Newyddion a Digwyddiadau
  • Cefnogaeth a Lles
  1. Hafan
  2. Y Brifysgol
  3. Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau
  4. Llyfrgelloedd ac Archifau
  5. Casgliad Archifau ac Ymchwil
  6. Casgliad Hanes Cyfrifiadura

Casgliad Hanes Cyfrifiadura

Tudalennau cysylltiedig
  • Oriau Agor a Lleoliadau
  • Casglu Cardiau Adnabod
  • Archebwch Fan Astudio/CP yn y Llyfrgell
  • Canllawiau Llyfrgell
  • Eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr
  • Technoleg Gynorthwyol
  • Gwybodaeth ar gyfer Ymwelwyr i'r Llyfrgell
  • Cysylltu â'r Llyfrgell
  • Hafan Llyfrgelloedd ac Archifau

Cyflwyniad i'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura

“We had the experience, but we missed the meaning.”  T. S. Eliot

Mae Casgliad Hanes Cyfrifiadura'r Brifysgol yn cynnwys offer, meddalwedd, archifau, effemera, hanesion llafar a fideos. Sefydlwyd y Casgliad yn ystod hydref 2007 er mwyn astudio datblygiad ac arloesedd technolegol hanesyddol, a'r berthynas rhwng technolegau cyfrifiadura â phobl a'r gymdeithas yn benodol.

Un ffocws pwysig yw datblygiad cyfrifiadura yng Nghymru. Trwy ymchwilio i hanes cyfrifiadura yn lleol, rydym wedi canfod ein bod ni'n gallu gweld a cheisio deall cydadwaith "achosion ac effeithiau" technegol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn well.

Mae'r Casgliad hefyd yn ymwneud â meysydd arbenigol penodol o gyfrifiadura. Mae'r dewis o'r pynciau hyn yn adlewyrchu diddordebau aelodau Prifysgol Abertawe a chyfeillion y Casgliad. Er enghraifft, mae gennym archif L. J. Comrie, FRS (1893-1950), arloeswr dulliau rhifiadol, sy'n cynnwys nodiadau a'i gasgliad o dablau mathemategol; ac mae gennym archifau sy'n dangos datblygiad cyfrifiadureg ddamcaniaethol a dulliau ffurfiol ar gyfer peirianneg meddalwedd. 

Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y Casgliad. Mae hefyd yn declyn ymchwil i adeiladu'r Casgliad, ac i annog pobl i ddehongli a lledaenu hanes cyfrifiadura. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried y syniadau a'r myfyrdodau yma'n ddiddorol. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ein helpu i adeiladu'r casgliad; mae croeso mawr i chi gysylltu â ni. 

John V Tucker

Casgliadau Arbennig Hanes Cyfrifiadura

Mae'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura yn gartref i rai casgliadau arbennig.

Damcaniaeth rhaglennu

Mae ein diddordeb penodol mewn rhaglennu a datblygu meddalwedd wedi denu nifer o roddion gan archifau. Rydym wedi derbyn casgliadau o nodiadau, o erthyglau ac o lyfrau gan athrawon ym maes cyfrifiadureg

  • Willem Paul de Roever (Kiel),
  • Peter van Emde Baos (Amsterdam),
  • a Dines Bjorner (Copenhagen).

Gyda'i gilydd, mae'r archifau'n ymdrin â datblygiad llawer o'r ieithoedd rhaglennu modern, a rhoddir pwyslais ar ddulliau ffurfiol ar gyfer semanteg, manylu a gwirio.

Leslie J Comrie, FRS (1893-1950)

Roedd Comrie yn arloeswr ym maes dulliau rhifiadol ar gyfer gwyddoniaeth a pheirianneg cyn cyfrifiaduron, ac mae ein harchifau'n cynnwys nodiadau, papurau a'i gasgliad o dablau mathemategol sy'n gysylltiedig â'i gwmni cyfrifiadura sef y Gwasanaeth Cyfrifiadura Gwyddonol.

Gwybodaeth am y casgliad

Nodau a ffocws

Mae cyfrifiaduron wedi trawsnewid sawl agwedd ar wyddoniaeth, y gymdeithas a diwylliant ers y 1940au. Ym mhob degawd, mae cryfder y newidiadau wedi dwysáu ac nid oes unrhyw arwydd y bydd yn tawelu. Mae'r trawsnewidiad yn rhyfeddol ac mae'n anodd amgyffred ag ef. Mae mawr angen astudio'r technolegau hyn, a'u datblygiad a'u heffaith o wahanol safbwyntiau. Nid yw hanes y trawsnewidiad wedi'i gofnodi'n dda, heb sôn am ei ddadansoddi. Mae mawr angen achub yr hanes hwn er mwyn i'n cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol myfyrio yn ei gylch.

Nodau:

Diben y casgliad yw

  • Achub, casglu, cadw a dogfennu deunyddiau sy'n nodi hanes cyfrifiadura a sicrhau eu bod ar gael, gan gynnwys llyfrau, papurau, effemera, darluniau, fideos, llawlyfrau, meddalwedd a chaledwedd.
  • Gweithio mewn partneriaeth ag amgueddfeydd, archifau a chymdeithasau dysgedig i hysbysu ac addysgu ysgolheigion a myfyrwyr am natur a hanes technoleg.
  • Cynnal casgliad byw y gellir ei ddefnyddio i gysylltu â systemau a etifeddwyd a chyfryngau digidol sydd wedi diflannu.
  • Ceisio cyllid i dyfu a chynnal y casgliad a gweithgareddau cysylltiedig, gan gynnwys datblygu'n fasnachol.
  • Hyrwyddo ymchwil ar hanes lleol cyfrifiadura.
  • Ennyn diddordeb y cyhoedd.

Bydd y Casgliad yn canolbwyntio ar:

  • Ddatblygiadau ym maes caledwedd;
  • Datblygiadau mewn rhaglennu ac ieithoedd rhaglennu;
  • Datblygiadau ym maes meddalwedd;
  • Datblygiadau mewn dealltwriaeth ddamcaniaethol;
  • Systemau a etifeddwyd a chyfryngau sydd wedi diflannu;
  • Effaith cyfrifiadura ar Wyddoniaeth, Diwydiant, Busnes, Cymdeithas a Diwylliant;
  • Hanes cyfrifiadura a'i ddylanwad ar Gymru, a Bae Abertawe yn benodol.

Bydd ei ddefnyddwyr yn ysgolheigion proffesiynol, yn haneswyr, yn fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Pobl y Casgliad Hanes Cyfrifiadura (CHC)

Mae'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura yn bartneriaeth rhwng yr Adran Gyfrifiadureg a'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau (GGS).

Pwyllgor Rheoli'r Casgliad Hanes Cyfrifiadura:

  • Yr Athro John V Tucker, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol, Cyfrifiadureg [Cadeirydd]
  • Steve Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr, GGS
  • Tim Davies, Darlithydd, Peirianneg/Electroneg
  • Phil Grant, Athro Cyswllt, Cyfrifiadureg
  • Yr Athro Peter Townsend

Cymorth Technegol:

  • Jon Evans
  • David Wale

Cysylltu â CHC

Os oes gennych ddiddordeb mewn Hanes Cyfrifiadura yng Nghymru neu hanes y maes yn fwy eang, mae croeso i chi gysylltu â ni:

Yr Athro John Tucker

Steve Williams

Trwyddedu

Prifysgol Abertawe neu eu perchnogion gwreiddiol sydd â hawlfraint am y lluniau ar y wefan hon.

Caniateir ailddefnyddio lluniau gwreiddiol y Casgliad Hanes Cyfrifiadura o dan delerau trwydded CC BY-NC.

Addysg ac Ymchwil

Staff yn gweithredu'r ICL 1904 yn y Ganolfan Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Abertawe

Cyfrifiaduron a Meddalwedd

Hen fysellfwrdd Apple

Cyfathrebu a'r rhyngrwyd

Adran o fap a gyhoeddir gan PC Direct ym 1994, sy'n dangos gwefannau yn y DU

Sefydliadau a Busnesau

Cyfrifiadur commodore Superpet

Pobl ac Atgofion

System cyfrifiadur Elliot 803B

Arddangosfa

Llun agos o gyfrifiadur digidol IBM 1620
  • Oriau Agor a Lleoliadau
  • Casglu Cardiau Adnabod
  • Archebwch Fan Astudio/CP yn y Llyfrgell
  • Canllawiau Llyfrgell
  • Eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr
  • Technoleg Gynorthwyol
  • Gwybodaeth ar gyfer Ymwelwyr i'r Llyfrgell
  • Cysylltu â'r Llyfrgell
  • Hafan Llyfrgelloedd ac Archifau
  • Cysylltwch â ni
  • Swyddi
  • Cyfadrannau
  • Y Wasg
  • Iechyd a Diogelwch
  • Ymwadiad a Hawlfraint
  • Map o'r Safle
  • Preifatrwydd a Chwcis
  • Datganiad Caethwasiaeth Fodern
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342