Os ydych chi'n astudio cwrs meddygol, boed drwy'r Ysgol Feddygaeth neu`r Coleg Gwyddorau Iechyd a Dynol, efallai y byddwch chi ar gwrs hyd ansafonol:
Y tu allan i'r flwyddyn academaidd safonol. Rydym yn cartrefi myfyrwyr ar gyrsiau ansafonol gyda'i gilydd fel nad ydynt yn byw ar eu pen eu hunain mewn llety ar ddechrau a diwedd y cwrs.
• Gall y cyrsiau hyn hefyd gynnwys lleoliadau gyda gwaith shifft ac oriau anghymdeithasol.
• Dyddiadau dechrau cynnar a dyddiadau gorffen diweddarach na'r cwrs israddedig safonol.
• Mae parcio ar gael ym Mhentref y Myfyrwyr Hendrefoelan (Nid oes parcio i fyfyrwyr ar gampws Parc Singleton).
• Yn byw gyda myfyrwyr sy'n profi bywyd myfyriwr tebyg gan gynnwys diwrnodau hir a gweithio shifftiau.
Mae'r dewis o lety yn fwy cyfyngedig oherwydd yr uchod. Fodd bynnag, mae`r canlynol ar gael:
Llety ar gael ar gyfer 46, cyrsiau 47 & 48 wythnos.
Pentref myfyrwyr Hendrefoelan
Caiff myfyrwyr eu cartrefu gyda'i gilydd mewn fflatiau o 7. Mae pob ystafell yn safonol, gyda chyfleusterau'r gegin ac ystafelloedd ymolchi wedi eu rhannu. Mae parcio am ddim ar gael ym mhentref y myfyrwyr.
Campws Parc Singleton
Caiff myfyrwyr eu cartrefu gyda'i gilydd mewn 2 fath o lety. Lleolir y ddau ger ysbyty Singelton. Yn anffodus, nid oes parcio i fyfyrwyr ar gampws Parc Singleton. Cliciwch yma i weld y lleoliad.
Llety safonol-wedi'i leoli yng Nghefn Bryn, mae gan bob ystafell ei basn ymolchi ei hun, a dim ond ystafell ymolchi gydag 1 person arall y byddwch yn ei rhannu. Mae tua 18 ystafell a 9 ystafell ymolchi mewn fflat.
Llety Ensuite-Mae gan adeilad Horton adeiladau ensuite mawr ar gyfer ymgeiswyr cwrs ansafonol, ac mae gennym hefyd nifer fach o ystafelloedd wedi'u neilltuo yn naill ai Langland neu Oxwich, a chaiff y rhain eu blaenoriaethu ar gyfer myfyrwyr â chyflyrau meddygol ac Ymgeiswyr cynnar. Mae'r ystafelloedd hyn mewn fflatiau gydag 8 ohonynt gyda chyfleusterau cegin a rennir.