Mae SAS yn darparu gwasanaeth Dod o hyd i Denant hefyd. Fel rhan o'r gwasanaeth hwn, rydym yn ymweld â'r tai i sicrhau eu bod yn cyflawni safon ofynnol. Wedyn, rydym yn hysbysebu'r tai ar ran y landlord, yn trefnu'r ymweliadau i weld y tai, yn paratoi'r contractau ac yn derbyn y taliad rhent cyntaf sydd, fel arfer, yn flaendal yr haf. Disgwylir i fyfyrwyr lofnodi un contract ar y cyd neu gontractau unigol, gydag rhywun yn gweithredu fel gwarantwr. Y landlord sy'n dewis pa fath o gontract a ddefnyddir.
