Gall y siwrnai drwy’r Brifysgol fod yn gyfnod cyffrous a chymysglyd i nifer o fyfyrwyr. Gall fod yn heriol yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sydd â chyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth.

Pa gymorth a ddarperir gan y Tîm Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth?
- Rhaglen ymgyfarwyddo am ddeuddydd i fyfyrwyr newydd cyn iddynt ddechrau yn y Brifysgol
- Grŵp Cymdeithasol Eureka i fyfyrwyr sydd ag awtistiaeth/cyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth
- Cymorth i’r myfyrwyr wrth gofrestru ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl. Gall y Lwfans Myfyrwyr Anabl sicrhau bod cymorth hir dymor ar gael, drwy gydol amser myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
- Sesiynau cymorth unigol
- Cymorth gyda deall diagnosis o awtistiaeth/cyflwr ar y sbectrwm awtistiaeth
- Cysylltu ag adrannau academaidd i drefnu addasiadau rhesymol pan fo’u hangen e.e. amser ychwanegol mewn arholiadau neu ddarpariaethau asesu gwahanol.
Sesiynau Galw Heibio (Ar-lein)
Mae Gwasanaeth Cyflyrau’r Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) yn cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer myfyrwyr ag ASC.
Bydd y sesiynau hyn, a gynhelir gan Ymarferwyr ASC, yn rhoi cyfle i chi holi cwestiynau neu i drafod pryderon ynghylch dychwelyd i astudio, gan gynnwys:
- Ni chyflwynais gais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl y llynedd, ydy hi’n rhy hwyr i gyflwyno cais nawr?
- Rwyf yn aros i gael fy asesu ar gyfer ASC, oes modd i mi gael mynediad at gymorth ar hyn o bryd?
- Oes cymorth ar gael sy’n gallu fy helpu i gymdeithasu?
- Rwy’n pryderu ynghylch sut y mae pandemig Covid-19 yn effeithio ar fy astudiaethau
- Ni ddatgelais fy ASC y llynedd, a oes modd i mi ei ddatgelu nawr a chael mynediad at y cymorth y mae ei angen arnaf?
Bydd y sesiynau galw heibio yn dechrau yr wythnos sy’n dechrau 23ain Tachwedd 2020.
Cynhelir y sesiynau bob dydd Llun a dydd Mercher rhwng 12pm ac 1pm.
Os hoffech chi fynychu, anfonwch e-bost i’r Gwasanaeth Lles yn wellbeing@abertawe.ac.uk gan gynnwys eich enw, eich rhif myfyriwr, eich cyfeiriad e-bost a’r hyn yr hoffech chi ei drafod.
Bydd y tîm ASC yn anfon dolen Zoom atoch chi er mwyn i chi gyrchu’r sesiwn.
- Canolfan Asesu DSA Prifysgol Abertawe
- Swyddfa Anableddau
- BywydCampws
- Hafan Lles
- Adnoddau Hunangymorth
- Cymuned a Digwyddiadau Lles
- Cymorth Lles
- Poeni Am Eraill
- Cyngor Cefnogol i Rieni a Gwarcheidwaid
- Cymorth Mewn Argyfwng
- Gwasanaeth Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth
- Cymorth am Ymosodiadau Rhywiol
- Rheoli straen
- Adnoddau Iechyd Meddwl yn ystod COVID-19
- Togetherall
- Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol
- Datganiad Preifatrwydd Swyddfa Anableddau
- Canolfan Llwyddiant Academaidd
- Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
- Ymgyrraedd yn Ehangach