Bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ar gau ar gyfer y gwyliau'r Pasg rhwng 28 Mawrth i 3 Ebrill 2024.

Bydd Ffurflen Cymorth Myfyrwyr ar gau rhwng 27 Mawrth i 3 Ebrill 2024.

 

Os oes angen cymorth arnoch chi yn ystod y cyfnod hwn, mae Adnoddau Hunangymorth ar gael ar ein tudalen we. Mae nifer o opsiynau cymorth eraill ar gael hefyd.

Student Space - Adnodd cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn addysg uwch, gan gynnwys cymorth gan wirfoddolwyr hyfforddedig dros y ffôn, drwy neges destun e-bost a sgwrs we, a gwybodaeth ac offer i'ch helpu i ymdopi â heriau'r coronafeirws.

Togetherall - Gwasanaeth iechyd meddwl ar-lein am ddim lle gallwch gael cymorth yn ddienw 24/7 gan glinigwyr hyfforddedig, yn ogystal ag amrywiaeth o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae'n lle diogel ar-lein i drafod eich pryderon, sgwrsio, mynegi eich meddyliau’n greadigol a dysgu sut i reoli eich iechyd meddwl.

 

Os teimlwch fod angen cymorth ar frys arnoch i ddatrys eich anawsterau, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu, yn mynd i adran argyfwng eich ysbyty agosaf, neu’n ffonio GIG Cymru ar 111 i dderbyn unrhyw ofal a chymorth statudol y gallai fod eu hangen arnoch. Mae ein tudalen we Cymorth Mewn Argyfwng hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth.

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi neu os ydych chi'n pryderu am rywbeth, yn teimlo'n ofidus neu'n ddryslyd, neu os hoffech chi siarad â rhywun, gallwch chi gysylltu â'r Samariaid drwy ffonio 116 123 o'r Deyrnas Unedig, neu drwy e-bostio jo@samaritans.org

 

 

Ymholiadau

Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk 

Y ffordd orau o gysylltu â'r Gwasanaeth Lles ac Anabledd yw drwy e-bost gan fod hyn yn ein galluogi i gyfeirio ymholiadau i'r tîm cywir yn rhwydd.

Sylwer nad ydym ar agor ar wyliau banc.

Os hoffech gysylltu â gweinyddwyr ein gwasanaeth, gallwch ffonio 01792 295592. Mae ein llinellau ffôn ar agor:

Bydd y Gwasanaeth Lles ac Anabledd ar gau ar gyfer y gwyliau'r Pasg rhwng 28 Mawrth i 3 Ebrill 2024.