Rydym yn deall pan fydd rhywun yn gadael gartref ac yn dechrau yn y Brifysgol gall fod yn amser ansicr i bawb dan sylw, yn enwedig y rhai hynny ag anableddau iechyd meddwl, anabledd, cyflwr meddygol hirdymor neu anawsterau dysgu penodol.

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig llawer o wasanaethau i gefnogi ein myfyrwyr drwy gydol eu hastudiaethau, a'u paratoi ar gyfer bywyd wedi hynny. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol ym Mhrifysgol Abertawe.

Os ydych yn poeni

Os ydych yn poeni, fe'ch anogwn i siarad yn uniongyrchol â'r myfyriwr a rhannu'r gwasanaethau niferus rydym yn eu cynnig â nhw.   Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Lles ei Gyfadran, ond noder bod rhaid i'r Gyfadran gael caniatâd y myfyriwr i drafod ei gofnod.

Mewn argyfwng

Ewch i'r dudalen we Cael Cymorth yn ystod Argyfwng os oes gennych bryderon.

Cyfrinachedd

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogel Data (GDPR), nid ydym yn gallu rhannu gwybodaeth â rhieni oni bai fod myfyriwr wedi rhoi ei ganiatâd i wneud hynny’n benodol. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau a yw unigolyn wedi defnyddio’r gwasanaeth neu beidio.

Nid ydym yn gallu cysylltu â myfyriwr neu orfodi myfyriwr i ddefnyddio ein gwasanaeth os yw rhiant neu unigolyn arall yn gofyn am hyn.