Mae’r canllaw hwn ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Abertawe sydd ag anabledd neu anhawster tymor hir.

At ddibenion y canllaw hwn, mae'r term anabledd yn cynnwys unigolion â namau synhwyraidd neu gorfforol, cyflyrau meddygol tymor hir, anawsterau dysgu penodol, cyflyrau'r sbectrwm awtistig a chyflyrau iechyd meddwl. 

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym am i'n holl fyfyrwyr lwyddo hyd eithaf eu gallu, ac rydym yn cynnig llawer o gymorth a chefnogaeth i'r rhai sydd eu hangen.

Sut rydym yn diffinio anabledd

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae anabledd yn gyflwr sy'n cael “effaith negyddol sylweddol a thymor hir ar weithgareddau beunyddiol arferol.” Rhai enghreifftiau yw dyslecsia, ADHD, gor-bryder, iselder ysbryd, awtistiaeth, bwlimia, colli golwg, colli clyw, neu anawsterau symud.

Canllawiau craff i ddewis y brifysgol iawn i chi

Mae’n hollbwysig gwybod y bydd y Brifysgol rydych wedi ei dewis yn darparu’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol. Darllenwch  ein canllawiau craff i'ch helpu i wneud y penderfyniad pwysig hwn.

  • Gwnewch ymchwil i'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan bob prifysgol i wneud yn siŵr eu bod yn darparu gwasanaethau sy'n diwallu eich anghenion chi.
  • Ewch i ymweld â’r brifysgol i gael syniad gwell o le byddwch yn astudio. Darllenwch ragor am Ein Diwrnodau Agored.
  • Trefnwch i weld llety’r brifysgol.
  • Edrychwch ar y llety sydd ar gael yn yr ardal leol.
  • Ewch i weld y ddinas neu’r lleoliad.

 

Paratoi ar gyfer y brifysgol

Gall paratoi eich helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol cyn gynted â phosib. Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i baratoi:

  1. Dywedwch wrthym am eich anabledd, eich anawsterau dysgu, eich cyflwr iechyd meddwl, cyflwr y sbectrwm awtistig neu eich cyflwr meddygol, cyn gynted â phosib, fel y gallwn gynnig ein cymorth llawn ar bob cam o'ch taith o gyflwyno cais i raddio
  2. Siaradwch â ffrindiau a theulu am y newidiadau y gallwch eu hwynebu wrth gyrraedd. Gofynnwch am help i ymarfer ffyrdd newydd o fyw a dysgu sgiliau newydd. Ydych chi’n gwybod sut i ddefnyddio’r peiriant golchi? Allwch chi goginio amrywiaeth o brydau bwyd syml i chi eich hun?
  3. Meddyliwch am heriau y gallech eu hwynebu a siaradwch ag eraill er mwyn dod o hyd i ffyrdd o oresgyn y rhain

 

Cydnabyddiaethau

Lluniwyd y canllaw hwn gan Brifysgol Abertawe gyda chymorth y gweithgor ar gymorth staff i fyfyrwyr ag anableddau, Gwasanaethau Cynhwysol i Fyfyrwyr (Anabledd a Lles), Llesiant@BywydCampws, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, y Ganolfan Drawsgrifio, Gwasanaethau Llyfrgell, Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA), y Swyddfa Ddatblygu Rhyngwladol, Marchnata, Samantha Jones (myfyriwr ar interniaeth), Myfyrwyr Llysgennad, Cymdeithas Student Minds ac Academi Abertawe ar gyfer Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr (SAILS).