Rydym wedi casglu ystod eang o wybodaeth ynghyd a fydd o bosibl yn ddefnyddiol i chi. Mae nifer o adnoddau a rhaglenni lleol ac ar-lein sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd.
Gwefannau
- Mae elusen Mind yn darparu gwybodaeth a chanllawiau cryno i ymdopi a chael cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl, gan gynnwys A-Y o Iechyd Meddwl
- Student Minds yw elusen y DU ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr
- Mae Student Space yn darparu gwybodaeth a chyngor gan arbenigwyr i'ch helpu i ymdopi â heriau'r coronafeirws, gan gynnwys cymorth dros y ffôn, drwy neges destun a sgwrs ar y we.
Apiau
- Mae Headspace yn darparu ap ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer ffonau symudol, lle gallwch fanteisio ar raglen 10 niwrnod am ddim o ganllawiau sain i ymwybyddiaeth ofalgar.Mae Headspace ar gael am ddim i fyfyrwyr gyda Spotify Premium
- Gallwch bori ein rhestr o Apiau Lles defnyddiol
Canllawiau a Llyfrau Hunangymorth
- Canllawiau hunangymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol y GIG
- Edrychwch i weld beth sydd ar gael yn llyfrgell y Brifysgol
Adnoddau Lleol
- Mae Byw’n Iach gan GIG Cymru'n cynnig canllawiau a thechnegau i'ch helpu i wneud y dewisiadau gorau er lles eich iechyd