Knowledge Transfer Network (KTN)

Partner rhwydwaith arloesi Innovate UK yw’r Knowledge Transfer Network (KTN). Mae'r KTN yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a chyllidwyr eraill i ddarparu gwasanaethau rhwydweithio arloesedd gyda'r nod o gyfrannu at dwf y DU trwy arloesi.

Mae'r KTN yn cysylltu syniadau a chyfleoedd newydd ag arbenigedd, marchnadoedd a chyllid trwy ei rhydwaith o fusnesau, prifysgolion, cyllidwyr a buddsoddwyr. O fwyd-amaeth i systemau ymreolaethol ac o ynni i ddylunio, mae KTN yn cyfuno arbenigedd ym mhob sector â'r gallu i groesi ffiniau. Gall cysylltu â KTN arwain at gydweithrediadau posibl, digwyddiadau sy'n ehangu gorwelion a mewnwelediadau arloesi sy'n berthnasol i'ch anghenion.

Rhwydwaith Menter Ewrop

Nod Rhwydwaith Menter Ewrop yw helpu busnesau i arloesi, tyfu a llwyddo yn y farchnad Ewropeaidd.

Hwn yw rhwydwaith mwyaf y byd sy’n cynnig cymorth i fusnesau ac mae'n cwmpasu 60 o wledydd gyda chymuned enfawr o 600 o swyddfeydd datblygu busnes. Mae Rhwydwaith Menter Ewrop yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n syml i'w ddefnyddio ac sydd â chysylltiadau a mewnwelediad lleol ar draws pob rhan o'r DU.

Mae Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig gwasanaethau trawsgenedlaethol i fusnesau Cymru, a gwasanaeth fetio i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cydweithredol. Mae'r meysydd y canolbwyntir arnynt yn cynnwys busnes masnachol, technolegau newydd a hwyluso gweithgareddau ymchwil arloesol.

MediWales

MediWales yw’r rhwydwaith gwyddorau bywyd a'r corff cynrychioliadol i Gymru. Mae MediWales yn darparu cyngor, cymorth a chyfleoedd busnes i'w aelodau, wrth hyrwyddo cydweithio o fewn y gymuned gwyddor bywyd a thechnoleg iechyd yng Nghymru.

Gyda 180 o aelodau, gan gynnwys byrddau iechyd y GIG a phrifysgolion, mae rhwydwaith MediWales yn cynnwys sefydliadau gwyddor bywyd, gwasanaethau fferyllol a chwmnïau technoleg feddygol yn bennaf ac mae'n annog pobl i ymgysylltu â'r gymuned ymchwil glinigol.

Rhaglen Ymchwil a Phartneriaeth Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru

Mae Rhaglen Ymchwil a Phartneriaeth Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn cefnogi datblygiad argraffu fel proses gweithgynhyrchu uwch trwy gymhwyso gwybodaeth wyddonol a hyrwyddo arfer gorau yn y diwydiant trwy hyfforddiant, ymchwil a datblygu.
Mae cwmpas Rhaglen Aelodaeth Gysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru yn cynnwys yr holl brosesau argraffu a’u technolegau cysylltiedig ar gyfer pob maes, gan gynnwys cyhoeddi, pecynnu, diogelwch, ffabrigau, cerameg, addurno cynhyrchion, electroneg polymer, technoleg y gellir ei gwisgo, bwyd a bioddeunyddiau. Gall Aelodau Cysylltiol Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru hefyd gael mynediad i adroddiadau am brosiectau a ariennir gan ddiwydiant.

ESTnet

Rhwydwaith o sefydliadau technoleg yw ESTnet (Electronic and Software Technologies Network for Wales) sydd ag aelodau sy'n dylunio, yn datblygu, yn gweithgynhyrchu neu'n integreiddio technolegau electronig a meddalwedd. Mae aelodau cysylltiedig ESTnet yn cynnwys cadwyni cyflenwi a'r gwasanaethau proffesiynol sy'n eu cefnogi. Mae aelodau cyswllt ESTnet yn darparu gwasanaethau proffesiynol i'r diwydiant, ac mae eu haelodau academaidd yn darparu graddedigion o ansawdd da i'r diwydiant a chyfleoedd i gydweithio ar ymchwil ac arloesedd.

Mae'r rhwydwaith yn darparu amgylchedd cydweithredol lle gall pobl a sefydliadau sy'n gweithio gyda'r technolegau galluogi hyn greu cydberthnasau busnes cryf, cyfnewid gwybodaeth a rhannu syniadau.