Benthyciadau a Grantiau

Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr y DU yn cwrdd â chostau eu Ffioedd Dysgu a’u costau byw drwy wneud cais am gymorth ariannol ar-lein drwy eu gwefannau Cyllid Myfyrwyr perthnasol. Bydd yr hyn y mae gennych hawl i’w dderbyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ble yr ydych yn byw, beth yr ydych yn ei astudio, ac ar ba lefel.

Os ydych chi wedi cael caniatâd a hawliau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys caniatâd drwy'r cynlluniau i bobl Affganistan ac Wcráin, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Sylwer y bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei chyflwyno fel canllaw, a chynghorir myfyrwyr i gysylltu â darparwr eu cyllid er mwyn cadarnhau a ydynt yn gymwys am gyllid myfyrwyr ac a oes hawl ganddynt i gael hynny. Nid yw arian gan Gyllid Myfyrwyr ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio modiwlau fel myfyriwr allanol.

Mae gwybodaeth benodol am ariannu gennym hefyd i fyfyrwyr sydd am astudio:

I gael gwybodaeth am gyllid ôl-raddedig, ewch at ein tudalennau Ffioedd ac Ariannu Ôl-raddedig

Mae angen ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfnod yr ad-daliadau hyn ar ein tudalen Fyfyriwr+.

Efallai y bydd gennych hawl hefyd i gael cyllid neu gymorth ychwanegol yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ewch i'r tudalennau perthnasol i gael mwy o wybodaeth am gefnogaeth i fyfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn Sharia Compliant Finance, gweler ein tudalen we bwrpasol sydd ar gael yma.

Cofiwch – Mae Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar gael. Maen nhw wedi’u darparu gan Brifysgol Abertawe i hyrwyddo rhagoriaeth ac i ehangu cyfranogiad.

Rydym yn gwerthfawrogi efallai mai benthyciadau o ffynonellau eraill yw'r unig opsiwn addas sydd ar gael i rai myfyrwyr barhau â'u hastudiaethau. Gweler ein tudalen Ffynonellau Amgen o Gyllid i gael mwy o wybodaeth. Sylwch y bydd hyn yn mynd â chi i'n tudalen cyllid Ôl-raddedig ond gall rhai ffynonellau cyllid fod ar gael i Israddedigion. Rhaid inni bwysleisio nad oes gennym unrhyw gysylltiad â chwmnïau benthyciadau masnachol ac anogwn pob myfyriwr i archwilio'r opsiynau uchod cyn ystyried ffynonellau cyllid mewn man arall.