Trosolwg o'r Cwrs
8fed yn y DU a'r 1af yng Nghymru ar gyfer Rhagolygon Graddedigion*, mae ein rhaglenni Cyfrifyddu wedi'u cynllunio gyda'ch gyrfa lwyddiannus mewn cyfrifeg mewn golwg. *(Complete University Guide 2021).
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i sicrhau eich bod yn sefyll allan yn y farchnad swyddi.
Bydd sgiliau ymarferol, ynghyd ag addysgu arloesol, sy'n seiliedig ar ymchwil, yn rhoi'r wybodaeth fyd go iawn i chi i ddod yn raddedig gyda’r gallu i weithio mewn unrhyw rôl cyfrifyddu - o fewn unrhyw sefydliad, ar draws unrhyw sector.
Bydd ein rhaglen aml-achrededig yn rhoi maeth i chi ar statws Cyfrifydd Siartredig gyda chyrff achredu byd-eang - ACCA, ICAEW a CIMA – rhywbeth sy'n ddeniadol iawn i gyflogwyr a'ch rhagolygon graddedigion.
Bydd ein detholiad helaeth o fodiwlau, sydd wedi'u cynllunio ochr yn ochr â diwydiant, yn rhoi cyfle i chi astudio popeth o Fuddsoddiadau a Chyfrifeg Rheoli i Reoli Arloesedd ac Economeg ar gyfer Cyfrifo a Chyllid.
Gallwch hyd yn oed astudio modiwl di-gredyd 'Cyfrifeg Gyfrifiadurol'– lle byddwch yn dysgu sut I sefydlu system gyfrifyddu gyfrifiadurol - gan ddefnyddio SAGE Line 50.