Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn gweld eich hun yn gweithio yn niwydiant llewyrchus Ymgynghoriaeth Rheoli? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lunio strategaeth fusnes yn effeithiol?
Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Ymgynghoriaeth Reoli) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (Ymgynghoriaeth Reoli), y cwrs BSc Rheoli Busnes (Ymgynghoriaeth Reoli) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes rheoli busnes ac ymgynghoriaeth rheoli, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (Ymgynghoriaeth Reoli) yn yr Ysgol Reolaeth.
Yn ystod eich cwrs gradd, yn ogystal ag astudio modiwlau sy'n ymwneud yn benodol ag Ymgynghoriaeth Rheoli, byddwch hefyd yn astudio modiwlau busnes craidd gan gynnwys: marchnata, cyfrifyddu, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol. Bydd y cwrs pedair blynedd yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gynnig cyngor gwerthfawr ar fusnes i gleientiaid; a hynny mewn perthynas â strategaeth, marchnata a materion yn ymwneud â diwylliant a'r diwydiant.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.