Trosolwg o'r Cwrs
A ydych yn gweld eich hun yn gweithio ym myd e-fusnes, sy'n datblygu'n gyflym ac yn barhaus? A ydych yn chwilio am radd a fydd yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli cwmni e-fasnach yn llwyddiannus?
Gallai'r cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (e-Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Abertawe eich helpu i gyflawni hyn.
Os nad ydych wedi ennill y graddau angenrheidiol i gofrestru ar gyfer y cwrs BSc Rheoli Busnes (e-Fusnes), y cwrs BSc Rheoli Busnes (e-Fusnes) gyda Blwyddyn Sylfaen yw'r radd i chi.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen yn ffordd ardderchog o feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ym maes e-fusnes, cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 y cwrs gradd BSc Rheoli Busnes (e-Fusnes) yn yr Ysgol Reolaeth.
Yn ogystal ag astudio e-fusnes a'r ffordd y caiff ei gymhwyso yn yr amgylchedd busnes, byddwch hefyd yn astudio modiwlau busnes craidd gan gynnwys: marchnata, cyfrifyddu, cyllid, strategaeth a rheoli adnoddau dynol.
Caiff y Flwyddyn Sylfaen ei haddysgu yn Y Coleg, sydd y drws nesaf i'r Ysgol Reolaeth. Ar ôl i chi gwblhau'r flwyddyn hon, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth am weddill eich astudiaethau.